Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sioe Ffasiwn Wanwyn y Cadeirydd

Published: 10/04/2018

Nos Wener, 20 Ebrill 2018, bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Brian Lloyd, a’i gonsort, Mrs Jean Lloyd, yn cynnal sioe ffasiwn at achosion da yng Nghlwb Cyn-Filwyr yr Wyddgrug a’r Cylch ar Ffordd Wrecsam, yr Wyddgrug. Diben y noson yw codi arian ar gyfer tair elusen y Cadeirydd, sef Hosbis Claire House, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru. Cefnogir y sioe gan Simmi Womenswear, yr Wyddgrug, a fydd yn gwerthu dillad, bagiau, sgarffiau a gemwaith ar y noson. Mae’r noson yn dechrau am 7pm ac yn costio £3. Meddai’r Cyng. Lloyd: “Hoffwn annog pawb i ddod draw ir sioe ac ymuno â ni ar gyfer noson llawn hwyl! Mi fydd hon yn ffordd wych i gefnogi fy elusennau. Os hoffech chi brynu tocynnau, gallwch gysylltu â mi neu Jean ar 07734 579898, Lesley neu Karen ar 01352 702151 neu fe allwch chi fynd i Simmi Womenswear, Swyddfeydd y Cyngor Tref, Vaughan Davies neu Bargain Booze.”