Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint

Published: 22/03/2018

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? Os felly, dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wella eich siawns o gael gwaith. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 11am a 3pm, ddydd Iau 19 Ebrill 2018. Meddai’r Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Yn 2017 daeth 400 o bobl i’r digwyddiad hwn. Sefydlwyd y digwyddiad i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint ac amlygu cyfleoedd gwaith i bobl leol, gan roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb. “Llynedd cefnogwyd y digwyddiad hwn gan fwy na 30 o gyflogwyr a sefydliadau a chanddynt dros 500 o swyddi ar gael rhyngddynt.” Cewch hefyd gymorth ymarferol i’ch helpu chi ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru. Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol. Gall cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau am Waith a Mwy eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’ch cefnogi os hoffech sefydlu eich busnes eich hun. Gall mentoriaid Cymunedau am Waith eich cynghori ar eich cymhwysedd i dderbyn cymorth ychwanegol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, syn darparu sesiynau mentora un-i-un yn Sir y Fflint. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Kate yn Cymunedau am Waith a Mwy ar 01244 846090 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748881647.