Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 15/07/2014

Bydd adroddiad blynyddol yn asesu perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Sir y Fflint yn cael ei ystyried mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (15 Gorffennaf) a dylai cynghorwyr hefyd gytuno ar dargedau blaenoriaeth i fynd ir afael â nhw yn 2014-15. Mae adroddiad eleni’n tynnu sylw at rannau rhagorol or gwasanaeth gan gynnwys cefnogaeth lwyddiannus i deuluoedd drwy Dechrau’n Deg a’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd; cefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn y gymuned drwy ddefnyddio ymatebion mwy hyblyg a chreadigol a chyflawni canlyniadau da ar gyfer pobl â salwch meddwl a enillodd Glod Gofal Cymdeithasol yn 2013. Mae Sir y Fflint yn cefnogi nifer cynyddol o blant syn derbyn gofal gyda gwasanaeth maethu cryf, cyson, a sefydlog; yn diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn effeithiol ac yn ffurfio partneriaethau gwaith da ag awdurdodau ac asiantaethau eraill gan gynnwys sefydlu tîm wedi’i gyd-leoli gydar gwasanaeth iechyd yn Nhreffynnon ar cynlluniau Gofal Ychwanegol. Cynlluniau eraill syn cynnig atebion arloesol ywr gwasanaeth Byw’n Dda syn darparu cefnogaeth hyblyg i bobl â dementia, gweithio’n integredig gydag iechyd drwyr Tîm Ymyrryd mewn Argyfwng a sicrhau cytundeb i ddatblygu menter gymdeithasol sy’n seiliedig ar ddyluniad. Gan edrych ar y blaenoriaethau yn y dyfodol, mae gan y gwasanaeth arweinyddiaeth gref sy’n gwthio’r broses o foderneiddio gofal cymdeithasol yn ei blaen yn y sir, a nod hyn fydd sicrhau bod gwasanaethaun cyd-fynd ag anghenion trigolion a’i nod fydd cynnig gwasanaethau mwy integredig yn enwedig gydag iechyd. Bydd systemau’n cael eu datblygu ymhellach i sicrhau bod gan y bobl sy’n defnyddio Gwasanaethau Cymdeithasol lais yn y broses o wneud penderfyniadau ynglyn â’u gofal ac i gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o brofiadau pobl o’r gwasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Maer Cyngor wedi llwyddo i gyflawni yng nghyd-destun heriau gwirioneddol, gan gynnwys nifer cynyddol o blant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn gydag anghenion gofal cymhleth sydd angen cefnogaeth. Gyda phobl wrth galon ein gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i roir gofal gorau posibl sy’n cwrdd ag anghenion unrhyw un ar draws y sir a allai fod angen defnyddio’r gwasanaethau a byddwn yn ymdrechu i osod targedau ar gyfer gwella bob blwyddyn.”