Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Awr Ddaear 2018

Published: 22/03/2018

Nos Sadwrn, 24 Mawrth 2018, am 8.30pm bydd Cyngor Sir y Fflint yn diffodd goleuadau diangen yn Neuadd y Sir yr Wyddgrug am awr i ddathlu Awr Ddaear y WWF. Dyfarnwyd bathodyn seren i Gyngor Sir y Fflint a bydd yn ymuno â miliynau o bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau o gwmpas y byd mewn arddangosfa weledol a byd-eang o ymrwymiad i warchod ein planed a mynd i’r afael â materion amgylcheddol sy’n galw am sylw brys. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn gweithredu trwy wneud #PromiseForThePlanet i gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Mae ein gweithwyr hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewidion eu hunain i newid un peth yn eu bywydau a fydd yn helpu i warchod ein planed, o ddefnyddio cwpanau coffi ailddefnyddiadwy i gerdded i’r gwaith. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio ar y cyd â Groundwork Gogledd Cymru i ddarparur Her Asiantau Ynni ar draws ysgolion Sir y Fflint. Mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu sut mae ynni’n cael ei gynhyrchu a sut i ostwng effaith defnyddio ynni ar yr hinsawdd. Er mwyn dathlu Awr Ddaear 2018 mae’r disgyblion hefyd wedi gwneud cyfres o Addewidion i’r Blaned gan gynnwys: · Rydw i’n addo diffodd goleuadau wrth adael yr ystafell · Rydw i’n addo treulio llai o amser yn y gawod, dim mwy na 6 munud · Rydw i’n addo cau’r llenni gyda’r nos i gadw’r gwres i mewn · Rydw i’n addo gwneud yn siwr fod pob plwg wedii ddiffodd cyn i mi adael fy ystafell · Rydw i’n addo gwisgo dillad cynnes yn lle gofyn i mam droir gwres ymlaen · Rydw i’n addo peidio â gadael fy ffôn yn gwefru drwyr amser Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â’r digwyddiad byd-eang hwn unwaith eto eleni. Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau i leihau ein hôl troed carbon ein hunain, gwella effeithlonrwydd ynni a gosod systemau gwresogi a chynhyrchu trydan adnewyddadwy ar ein hadeiladau an tai ein hunain. “Cafodd hyn ei brofi’n ddiweddar yn dilyn ein llwyddiant yng Ngwobrau Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru ar ôl i ni ennill Awdurdod Lleol y Flwyddyn am ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig, a chawsom Gymeradwyaeth Uchel yng nghategori Ymgyrchydd Cefnogaeth i Gwsmeriaid Diamddiffyn y Flwyddyn am y gefnogaeth a roddwyd i aelwydydd mewn partneriaeth gyda Chanolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru. Mae adborth gan yr ysgolion sydd wedi cymryd rhan hyd yma wedi bod yn ardderchog: Ysgol y Llan: “Sesiwn wych! Cymerodd pob disgybl ran mewn amryw o weithgareddau a oedd yn eu hannog i fod yn fwy ecogyfeillgar yn y cartref” Rydym yn annog cymunedau lleol a phartneriaid yn Sir y Fflint i wneud #PromiseForThePlanet ac ymuno ag ymgyrch fyd-eang Awr Ddaear nos Sadwrn 24 Mawrth am 8.30pm. Dangoswch eich cefnogaeth i fyd gwell! I gael mwy o wybodaeth ac i wneud addewid ewch i www.wwf.org.uk/awrddaear