Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taith a Sgwrs ar hyd Aber Afon Dyfrdwy

Published: 28/03/2018

Mae’r awdur erthyglau teithio, y ‘Bald Hiker’, neu Paul Steele, yn amnewid ei deithiau tramor arferol am rywbeth ychydig yn nes at adref yr wythnos nesaf wrth iddo deithio ar hyd Aber Afon Dyfrdwy. Ar hyd y daith bydd yn sgwrsio efo pobl i ddysgu am eu dyheadau ar gyfer yr ardal arbennig hon er mwyn cynghori prosiectau i’r dyfodol. Syniad Partneriaeth Dalgylch Llanw Afon Dyfrdwy yw’r daith hon, wedi’i chynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer sy’n dymuno derbyn barn pobl am yr aber, h.y. pam eu bod yn mwynhau dod yma, i beth a pha welliannau y gellir eu gwneud. Bydd y daith yn dechrau ddydd Mercher 28 Mawrth ar Draeth Barkby, Prestatyn ac yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru at Bont Penarlâg, i orffen yn Hoylake ddydd Gwener 30 Mawrth, ar ôl galw heibio i Warchodfa Natur Red Rocks Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer. Mae’r bartneriaeth yn galw am bobl i ymuno â Paul ar y daith ac i sgwrsio efo fo am bwysigrwydd yr ardal i’r gymuned. Meddai Sarah Bennett, Rheolwr Ardal Ymddiriedaeth Natur Sir Gaer: “Rydym ni’n falch iawn bod Paul yn rhan o’r prosiect hwn. Bydd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion ac anghenion yr ardal er lles y bywyd gwyllt a’r gymuned. Po fwyaf yw brwdfrydedd pobl am eu hoff fannau gwyllt, mwyaf yw’r gallu i sicrhau bod mannau pwysig fel Aber Afon Dyfrdwy yn cael eu gwarchod a’u gwella er budd pobl a bywyd gwyllt.” Ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae Aber Afon Dyfrdwy yn hafan i fywyd gwyllt. Mae’r rhydwyr a’r adar gwyllt yn gwneud yr aber yn un o’r aberoedd pwysicaf yn Ewrop. Yn ogystal ag adar, fe allwch chi hefyd ddod o hyd i fadfallod y tywod a llyffantod cefnfelyn. Mae pwysigrwydd yr aber i fywyd gwyllt yn golygu bod yr ardal wedi’i gwarchod yn rhyngwladol. Meddai’r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint: “Mae ein llwybr arfordirol yn lle gwych i gerdded a beicio, gyda golygfeydd amrywiol iawn o ardaloedd diwydiannol ac ardaloedd sy’n llawn hanes, treftadaeth a bioamrywiaeth. Un o fy hoff rannau yw cerdded o Gastell y Fflint ar hyd yr hen ddociau tuag at Dwnnel Milwr. Yn y gwanwyn, mae’r ardal yn doreithiog o flodau. Mae rhan Sir y Fflint or llwybr wedi’i rheoli gan ein ceidwaid arfordirol sy’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi defnyddio cyllid grant i greu arwyddion a cherfluniau syn adrodd hanes yr ardal er mwyn i ymwelwyr weld sut maer ardal wedi newid dros y blynyddoedd. Gobeithiaf yn wir y bydd Paul yn mwynhau cerdded o amgylch tirwedd gwyllt a godidog Aber Afon Dyfrdwy, ac y bydd pobl yn gallu ymuno efo fo i siarad am eu hoff lefydd. Paul Steele yw sylfaenydd a golygydd gwefan Bald Hiker, lle mae o’n blogio am ei anturiaethau heicio ar draws y byd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig iawn oi straeon, ac mae modd iw ddilynwyr ar Twitter deithior byd drwy ei luniau a dysgu am ei brofiadau wrth roi cynnig ar dechnolegau newydd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England, Grwp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy, yr RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Wirral, Cyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer holl yn bartneriaid o fewn Phartneriaeth Dalgylch Llanw Afon Dyfrdwy ac yn cydweithio i wella Aber Afon Dyfrdwy. Gallwch ddilyn y daith ar-lein wrth i Paul bostio ffilmiau, lluniau a gwybodaeth am ei daith ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio #DeeEstuaryWalk.