Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant gyda Chyllid

Published: 28/03/2018

Yn dilyn cynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ym Mawrth y llynedd o dan y fenter ariannu Ffyrdd Diogelach mewn Cymunedau, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod gwaith wedi dechrau i gyflawni gwelliannau diogelwch sydd mawr eu hangen ac y gofynnwyd amdanynt yn ardal Ysgol Bryn Coch. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydlun a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint: “Dwi’n falch ein bod wedi gallu cynnwys y gwelliannau hyn sydd mawr eu hangen fel rhan o gynllun ariannu Llywodraeth Cymru a fydd yn gwella mynediad i deuluoedd ar gyfer grwpiau cerdded i mewn syn defnyddio pramiau, beiciau a sgwteri. Mae annog teithio llesol ac iach yn y gymuned fel ffordd arall i gyrraedd rhywle yn lle defnyddio’r car yn siwr o wella tagfeydd traffig yn fawr o gwmpas yr ysgol yn ogystal â gwella diogelwch ar gyfer y defnyddwyr ffordd fwyaf diamddiffyn.