Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Prosiect Caffael Rhanbarthol Tair Sir
  		Published: 15/07/2014
Gallai pwer prynu tri o siroedd gogledd Cymru gael eu cryfhau os caiff achos 
busnes ar gyfer prosiect i rannu gwasanaethau ei gefnogi gan Aelodau Cabinet yn 
ystod cyfarfod ddydd Mawrth (15 Gorffennaf).
Mae Cynghorau Sir y Fflint a Sir Dinbych wedi uno eu hunedau caffael 
corfforaethol ond gallai trydedd sir, Gwynedd elwa o rannu rhai o’r 
gwasanaethau.
Amcangyfrifir y gellir gwneud arbedion posibl ar draws y tair sir o £2.7 miliwn 
yn yr ail flwyddyn gan godi i £9.2m mewn pum mlynedd ac mae’n nodi cychwyn y 
diwylliant o newid sydd ei angen er mwyn rheoli categori ar waith. Bydd 
costau’r prosiect yn cael eu talu o Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol Llywodraeth 
Cymru.
Gall uned caffael gref fynd i’r afael â nifer o faterion - arbed arian drwy 
ddefnyddio contractau mwy, cefnogi’r economi leol drwy ddefnyddio contractau 
llai a chynyddu rheolaeth leol i elwa cymunedau drwy ddefnyddio cymalau budd 
cymdeithasol.
Yn 2012-13, llwyddodd y tri chyngor i gaffael £384m o nwyddau a gwasanaethau, 
rhai or meysydd ble bu llawer o wariant oedd £86m ar ofal cymdeithasol, £100m 
ar adeiladu a £26m ar gludiant cyhoeddus.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Billy Mullin Aelod Cabinet dros Reolaeth 
Corfforaethol i’w ddweud: “Dyma gydweithrediad cadarnhaol ac uchelgeisiol a 
fydd yn creu arbedion posibl o filiynau o bunnoedd i bob cyngor. Yn yr hinsawdd 
economaidd anodd hwn mae’n rhaid i ni ddarganfod rhagor o ffyrdd o leihau 
costau a thrwy gydweithio’n agos, bydd y tair uned yn rhoi mantais i’r 
cynghorau wrth brynu nwyddau a gwasanaethu a fydd yn y pendraw yn cynnig 
gwasanaethau gwell i bobl Sir y Fflint.”
Bydd cyfnod nesaf y broses yn cael ei ystyried yn yr hydref.