Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Breswylydd Sir y Fflint

Published: 18/04/2018

Gwahoddodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, breswylydd lleol i Neuadd y Sir yn ddiweddar i ddathlu cyflawniad arbennig. Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Sheila Delahoy o’r Wyddgrug am ei gwaith gwirfoddol dros gyfnod o 25 mlynedd. Mae Mrs Delahoy wedi gweithio’n anhunanol i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser y DU a’r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig gan godi oddeutu £33,000. Ynghyd â’i gwr, John, dechreuodd godi arian drwy gynnal boreau coffi yn ei chartref cyn symud ymlaen i gynnal digwyddiadau yn ei gardd. Dechreuodd godi arian ym 1984 ar gyfer ffeibrosis systig wedi i’w nith a’i merch fedydd, Bernice Banner, derbyn diagnosis o’r cyflwr cronig hwn. Bu farw yn 2003. Ym 1988, cafodd Mrs Delahoy ddiagnosis o ganser y fron a derbyniodd driniaeth lwyddiannus.