Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Astudiaeth Ffordd Fynediad Sir y Fflint Swydd Gaer

Published: 19/04/2018

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo comisiwn ar y cyd i ymgysylltu â phartner arbenigol i wneud argymhellion ar y llwybr a ffafrir, ar gyfer cynllun priffyrdd traws-ffiniol newydd posibl. Mae’r prosbectws “Datgloi ein gwir botensial” gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a gyhoeddwyd yn 2017, yn tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol mae ein his-ranbarth yn ei wneud ar hyn o bryd i’r economi genedlaethol. Mae nifer o gynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd wedi’u nodi yn y prosbectws, sy’n cael eu hystyried yn hanfodol i ddatgloi datblygiad yn y dyfodol. Fodd bynnag, er mwyn archwilio opsiynau tymor hwy a fyddai’n sicrhau bod y rhwydwaith priffyrdd ar draws y rhanbarth yn gweithredu’n effeithiol ac effeithlon, mae trafodaethau wedi digwydd rhwng swyddogion Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Phriffyrdd Lloegr, i archwilior atebion rhwydwaith posibl ar gyfer ardal ehangach Glannau Dyfrdwy a Chaer. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Dyma gyfle cyffrous i’n rhanbarth, ac mae’r comisiwn ar y cyd hwn yn gyfle i edrych ar y rhanbarth yn ei gyfanrwydd a sut y gallai pob sir fanteisio ar hyn. Y budd i ni fyddai cael gwared ar dagfeydd traffig or ardal leol, mynediad uniongyrchol at yr A55, gwell mynediad i safleoedd datblygu newydd ac syn dod ir amlwg o amgylch Penarlâg, Saltney a Brychdyn, a darparu mynediad uniongyrchol i Barc Manwerthu Brychdyn. Mae yna hefyd y posibilrwydd o agor mynediad i orsaf parcio a theithio rheilffordd newydd arfaethedig, yn ardal Brychdyn, gan wasanaethu rheilffordd Caer – Arfordir Gogledd Cymru.” Disgwylir y gellir gwneud y gwaith hwn o fewn pedwar mis ar y mwyaf, lle bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet gyda manylion ynghylch canlyniad yr astudiaeth.