Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi manylion o’r cyntaf o gyfres o raglenni Gwella Priffyrdd

Published: 20/04/2018

Nawr bod y gaeaf gwaethaf ers sawl blwyddyn wedi ein gadael a bod amodaur tywydd yn gwella, gallwn fynd ir afael âr dasg o gynnal atgyweiriadau parhaol ar rwydwaith y priffyrdd. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymweld â, ac archwilio pob ffordd yn y Sir, gan gynnal arolygon cyflwr sydd wedi galluogi rhoi sêl bendith ar restr blaenoriaeth o raglenni arwynebu. Bydd y rhaglenni nawr yn cael eu tendro, i sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau a bydd y gwaith gwelliannau allweddol hwn yn dechrau ar y priffyrdd ym mis Mai. Bydd hyn o gymorth wrth adfer cyflwr rhwydwaith priffyrdd y Cyngor, a aseswyd fel y rhwydwaith sy’n cael ei gadw yn y cyflwr gorau dros Gymru gyfan, yn 2017. Bydd y rhaglen, sydd â gwerth dros £1m, yn gweld nifer o ffyrdd ar draws Sir y Fflint yn cael eu harwynebu’n gyfan gwbl. Noddir y rhaglenni hyn gan gyllideb cynnal a chadw priffyrdd y Cyngor ei hun gyda chefnogaeth nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor ddydd Llun 23 Ebrill, 2018 a bwriedir bod y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Er gwaethaf sefyllfa ariannol cyfredol ar y Cyngor, rydym yn falch o allu gwneud y buddsoddiad hwn yn ffyrdd Sir y Fflint, syn dangos pwysigrwydd cynnal a chadw rhwydwaith priffyrdd y Cyngor i safon dda. Rydym hefyd wedi bod yn mynd i’r afael ag atgyweiriadau dros dro dros y gaeaf i sicrhau diogelwch y rhwydwaith, felly rydym yn falch o allu dechraur gwaith atgyweiriadau parhaol. Bydd cyhoeddiadau pellach dros yr wythnosau nesaf ar raglenni ychwanegol mewn lleoliadau dinesig a gwledig wrth i’r safleoedd gael eu nodi a’u hasesu.