Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Published: 26/04/2018

Y Cadeirydd yn hel pres Mae Cadeirydd presennol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd a’i Gymar Mrs Jean Lloyd wedi cyflwyno sieciau i’w helusennau dewisol gyda chyfanswm o £13,500. Ers cael ei ethol fis Mai diwethaf, mae’r Cynghorydd Lloyd wedi cefnogi Hosbis Claire House, Cymorth Canser Macmillan a Barnado’s Cymru. Rhoddwyd £4,500 i bob elusen. Cyflwynodd y Cynghorydd Lloyd sieciau i gynrychiolwyr yr elusennau yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, gan ddod â diwedd llwyddiannus iawn i’w flwyddyn fel Cadeirydd. Chwith-Dde Cyngh. Brian Lloyd, Angella Rawfthorne (Claire House), Catherine Carr (Barnardos), Eleri Brady, and Denise Edwards (y ddau o Gymorth Canser Macmillan) a Mrs Jean Lloyd