Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trosglwyddo asedau cymunedol
Published: 14/04/2014
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (15 Ebrill) bydd Cabinet y Cyngor yn clywed am ddau
o adeiladau’r awdurdod a drosglwyddwyd yn ddiweddar o Gyngor Sir y Fflint i
grwpiau lleol eu rhedeg ar gyfer y gymuned.
Bydd prydles 25 mlynedd ffurfiol Neuadd Bentref Carmel yn cael ei throsglwyddo
i Bwyllgor y Neuadd drwy broses o drosglwyddo ased. Ar ôl i’r Cyngor dalu am y
gwaith trwsio cychwynnol, y grwp cymuned fydd wedyn yn gyfrifol am drwsio ac
yswirio’r neuadd, a chymeradwywyd hyn ym mis Chwefror.
Cytunwyd i drosglwyddo rhydd-ddaliad Pwll Nofio Bwcle i ymddiriedolaeth
elusennol, sef The Old Buckley Baths Community Hall Ltd, ar y cyd a Chyngor
Tref Bwcle fis Hydref diwethaf.
Gall y Cyngor ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i’r gymuned neu i grwpiau
elusennol er mwyn iddyn nhw eu rhedeg er budd y gymuned, a chymeradwywyd y ddau
drosglwyddiad uchod gan Grwp Rheoli Asedau Corfforaethol y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn ffordd o gadw adeiladau ar agor er budd
pobl leol pan fyddant mewn perygl o gau oherwydd prinder arian. Rydym yn falch
iawn bod y ddau grwp cymuned yn awyddus i gymryd cyfrifoldeb dros y pwll nofio
a’r neuadd bentref ac y bydd y cyhoedd, felly, yn parhau i ddefnyddio’r
adeiladau hyn.
“Mae’r Cyngor yn gefnogol iawn i grwpiau elusennol a chymunedol a mentrau
cymdeithasol sy’n rhedeg busnesau er budd y gymuned ac mae’r ddau adeilad
hanesyddol hyn yn esiampl wych o gymuned yn cydweithio i helpu eraill i fwynhau
eu hunain am flynyddoedd eto.”