Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Treffynnon - 9 mai

Published: 08/05/2018

Wedi llwyddiant Clwb Menter Shotton, mae Cymunedau am Waith a Mwy rwan yn cyflwyno Clwb Menter newydd yn Sir y Fflint wedi ei leoli yn Nhreffynnon. Mae’r Clwb Menter gwreiddiol wedi helpu llawer o bobl leol a sefydlodd eu busnes ers ei sefydlu bum mlynedd yn ôl. Mae’r grwp yn cynghori pobl drwy ei weithdai ar nifer o fudd-daliadau a all eu helpu nhw wrth iddynt gychwyn busnes, gall hefyd fod o gymorth gyda mentor perthnasol i arwain a datblygu eu busnes neu eu syniad busnes. Mae’r clwb yn rhad ac am ddim ac mae’n gwahodd siaradwyr a chynghorwyr o asiantaethau eraill. Maer sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth a syniadau! Mae amrywiaeth o bobl yn mynychu - yn amrywio o fusnesau sefydledig i frandio syniadau newydd – pob un yn chwilio am y cam nesaf. Cynhelir y rhaglen newydd, sy’n cychwyn ar 9 Mai rhwng 1:30-3:30pm, yn Kim Inspire, The Hub, Park Lane, Treffynnon, CH8 7UR. Bydd yn canolbwyntio ar gefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio a bydd y gweithdai’n cael eu cyflwyno gan Sandra Donoghue “Mingle for Business”, y mae ei phrofiad o weithio gyda grwp Shortton wedi bod yn llwyddiannus. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Clwb Menter Shotton wedi bod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd ac maen gam positif ymlaen i sefydlu Clwb Menter newydd yn Nhreffynnon. Byddwn yn annog unrhyw weithiwr proffesiynol ac entrepreneuriaid y byd busnes i alw heibio’r sesiwn er mwyn darganfod mwy – mae’n cynnig rhywbeth i bawb, os ydych chi ond yn cychwyn arni neu yn edrych am gymorth er mwyn cymryd y cam nesaf. Os hoffech gofrestru, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01244 846090.