Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr Treffynnon

Published: 08/05/2018

Mae Cyngor Tref Treffynnon yn bwriadu gadael i gerbydau ddefnyddio Stryd Fawr Treffynnon am gyfnod prawf o wyth mis. Mae hyn yn deillio o waith dros y misoedd diwethaf, pan gwblhaodd y Cyngor Tref waith dwys a chynnal ymgynghoriad gydar gymuned fusnes leol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint a Grwp Busnes Treffynnon. Tuag at ddiwedd y cyfnod prawf, bydd pleidlais gymunedol yn cael ei chynnal i ymgynghori’n swyddogol gyda phreswylwyr, busnesau a defnyddwyr i werthuso eu barn am y cynllun. Pasiodd Cyngor Tref Treffynnon benderfyniad i dreialu caniatáu cerbydau ar y Stryd Fawr a chynnal pleidlais gymunedol yn ddiweddarach, ac mae’r Cynghorwyr Sir lleol yn llwyr gefnogi Cyngor Tref Treffynnon, Cyngor Sir y Fflint a’r gymuned fusnes wrth ymgymryd â’r broses hon. Mae’r cyfnod prawf yn cychwyn ar 8 Mai a bydd yn cael ei fonitron agos i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd ar palmentydd, gan gynnwys adolygu effeithiolrwydd y cynllun a’i effaith ar fusnesau lleol a’r gymuned ehangach. Bydd mesurau gorfodi yn cael eu gweithredu o ddechrau’r cyfnod prawf ymlaen, gyda chais gan y Cyngor bod pawb syn defnyddior stryd yn gwneud hynny mewn modd briodol wrth barchur rheoliadau a’r mesurau rheoli traffig. Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, ac ar ôl ystyried barn y preswylwyr yn ofalus, bydd y grwp partneriaeth yn ceisio nawdd i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu cynllun parhaol yn y dyfodol, yn amodol ar grant llwyddiannus a chais am nawdd.