Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		
  		Published: 18/05/2018
Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor
Gofynnir i Aelodaur Cabinet ystyried adroddiad syn ymdrin â pherfformiad a 
chyflawniadau yn erbyn mesurau, cerrig milltir ar risgiau a nodir yng 
Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pan maent yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, 22 
Mai.
Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor 2017/23 gan y Cyngor ym Medi 2017. Mae Cyngor Sir 
y Fflint wedi perfformio’n dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan 
brofi unwaith eto ei fod yn Gyngor sy’n perfformion uchel.  Mae hwn yn 
adroddiad cadarnhaol arall, gydag 83% o weithgareddau wedi’u hasesu fel gwneud 
cynnydd da, a 71% wedi cyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.  Mae dangosyddion 
perfformiad yn dangos cynnydd da, gyda 57% yn bodloni neu’n agos at darged y 
cyfnod. Maer risgiau yn cael eu rheolin llwyddiannus hefyd, gydar mwyafrif 
wediu hasesu fel cymedrol (63%)) neu fach (8%) neu’n ansylweddol (6%). 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Drwy Gynllun y Cyngor, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n 
bwysig i’n cymuned.  Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym 
am gyflawni ein targedau.  Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o’r 
blaen, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda, ac 
rwy’n hapus fod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt. 
Mae rhai o’r llwyddiannau hynny yn cynnwys:
· Llwyddo i sefydlu cwmni elusennol, ym mherchnogaeth y gweithwyr, o’r enw 
Aura, i reoli gwasanaethau hamdden, llyfrgell a threftadaeth yn y sir, o 1 Medi 
2017. Ers yr amser hwnnw, maent wedi cadw gwasanaethau a swyddi wrth wneud 
arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y gyllideb yn 2017/18 (effaith flwyddyn lawn 
o £0.574m).  Yn ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf mawr, yng Nghanolfan 
Hamdden yr Wyddgrug, a Phafiliwn Jade Jones yn y Fflint, sy’n werth £2.4m, yn 
cael eu cwblhau eleni, wedi’u hariannu gan Aura am ddim cost i’r Cyngor na 
phreswylwyr Sir y Fflint. 
· Parhau i adeiladu cartrefi cyngor newydd, drwy ehangu ar y rhaglen i 
Goed-llai, yr Wyddgrug a’r Fflint, gyda 95 o gartrefi cymdeithasol a 
fforddiadwy’n cael eu hadeiladu yn ystod 2017/18, gyda 31 uned arall yn cael eu 
cwblhau yn ystod Ebrill 2018.
· Parhau i wella tai cyngor gyda dros £19m wedi’i fuddsoddi yn 2017/18. 
Gosododd y tîm 1,000 o geginau newydd, 1,500 o ystafelloedd ymolchi newydd, 
disodli 100 o foeleri a gwres canolog, ac fe gafodd 250 o gartrefi welliannau 
toi ac elfennau allanol eraill.
· Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau gyda datblygiad mawr o Ysgol 
Uwchradd Cei Connah, ac ysgol iau newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym 
Mhenyffordd, i ddisodli’r ysgolion babanod ac iau cyfredol.
· At ei gilydd yn 2017/18, bu 211 o ymholiadau busnes newydd, gan arwain at 
greu 2,341 o swyddi, a phum menter gymdeithasol newydd. Fe wnaeth 3,746 o bobl 
busnes ymgysylltu â Sir y Fflint mewn Busnes a Fforymau Busnes yn ystod y 
flwyddyn.  Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy’n trosi i fuddsoddiadau yn parhau 
i aros yn uchel ar 89%, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle gwych i wneud 
busnes.
· Fe wnaeth 620 o bobl gwblhau rhaglenni wedi’u comisiynu gan y Cyngor, sy’n 
cyflawni canlyniadau swyddi a hyfforddiant.
· Mae Llys Raddington yn y Fflint bron wedi’i gwblhau, a bydd yn darparu 72 
uned o ofal ychwanegol.
· Mae Credyd Cynhwysol yn un o’r diwygiadau lles mwyaf sylweddol hyd yma, ac 
mae Sir y Fflint yn Cysylltu wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu 
cefnogaeth i’r rhai yr effeithir arnynt, gan ddelio â 3,340 o ymholiadau ers ei 
gyflwyniad ym mis Ebrill 2017.
· Sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu Cartref newydd i wasanaethu’r 
Fflint a Chei Connah, a gwelliannau i Ganolfannau Ailgylchu Cartref eraill yn y 
Sir.
Mae adnoddau yn parhau i fod yn her, ond er gwaethaf hyn, maer Cyngor wedi 
gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 drwy ddefnyddio atebion y 
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chymryd ymagwedd risg cytbwys, o reoli 
pwysau cost ac amrywiadau yn ystod y flwyddyn.
Mae perfformiad ar draws y Cyngor yn parhau i fod yn gryf; fe wnaeth dros 57% o 
fesurau fodloni neu ragori ar dargedau, ac roedd hanner yr holl ddangosyddion y 
gellid eu mesur yn eu herbyn y llynedd, wedi aros yn sefydlog neu wedi gwella.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 
“Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y 
Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn 
arall.  Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn parhau ac am symud ir 
flwyddyn nesaf, wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ar dargedau, er 
gwaethaf yr heriau economaidd parhaus.