Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Ansawdd Aer

Published: 18/05/2018

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint nodi cynnwys Adroddiad Ansawdd Aer Awdurdod Cyfun Gogledd Cymru pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis. Mae ymrwymiad cyfreithiol ar bob Cyngor i fonitro ac asesu ansawdd aer y Sir, yn ôl cyfarwyddyd Rhan IV Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae’r adroddiad yn cynnig asesiad manwl o ansawdd aer y rhanbarth. Yn benodol ar gyfer Sir y Fflint, prif ffynhonnell llygredd yw allyriadau traffig o brif ffyrdd sy’n cysylltu Lloegr gyda gweddill Gogledd Cymru. Ar ôl ystyried pob llygrydd ac adolygu unrhyw ddatblygiadau newydd yn y rhanbarth a allai gael effaith negyddol ar ansawdd aer (fel safleoedd tirlenwi, chwareli, safleoedd diwydiannol ac ati), daethpwyd i’r casgliad y dylai awdurdodau lleol barhau i gynnal eu rhaglenni monitro. Ni chafodd unrhyw Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu datgan yng Ngogledd Cymru, ac o ganlyniad nid oes angen unrhyw gamau pellach. Yn gyffredinol, ystyrir fod ansawdd aer yn dda yn y rhanbarth, serch hynny gan nad oes trothwy diogel i Nitrogen Deuocsid a Mater Gronynnol ar hyn o bryd, maen ddymunol i gadw lefelau llygredd ar lefel mor isel ag sy’n ymarferol yn rhesymol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae rheoli ansawdd aer yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Rhaid i ni gydweithio i wellar aer y mae pobl yn ei anadlu. Mae ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i gynnal ansawdd aer a dylai hwn fod yn gyfle i godi proffil y maes gwaith hwn a cheisio gwella ansawdd ein haer ymhellach. Dylai’r Cyngor a’i bartneriaid ymdrechu tuag at leihau lefelau llygredd, gan y bydd hyn yn gwella canlyniadau iechyd ar gyfer trigolion Sir y Fflint.”