Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â Llys Jasmine

Published: 21/05/2018

Gwnaeth Huw Irranca Davies AC, Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ymweld â Llys Jasmine yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, sef cynllun gofal ychwanegol a dementia arloesol a agorodd yn haf 2013. Fe’i adeiladwyd gan Anwyl Construction mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales & West a Chyngor Sir Y Fflint, ac mae Llys Jasmine yn darparu 61 rhandy a dau fyngalo gofal ychwanegol. Mae pob rhandy yn y cyfadeilad £8.3m wedi’i ddylunio i addasu i anghenion newidiol preswylwyr, gyda rhandai dementia penodol wedi’u gosod o amgylch iard canolog ar y llawr gwaelod uchaf gan roi amgylchedd diogel i gynnal annibyniaeth. Gyda gofal a chefnogaeth 24 awr ar y safle, a system galw gofal o’r radd flaenaf, mae wedi’i anelu at breswylwyr 65 oed a hyn. Dywedodd Huw Irranca Davies AC, Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru; “Roedd yn bleser mawr ymweld â Darpariaeth Gofal Ychwanegol Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, sy’n rhan o fuddsoddiad parhaus gan Gyngor Sir Y Fflint, Llywodraeth Cymru a phartneriaid mewn llety â chymorth a byw’n annibynnol i bobl hyn.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai: “Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn galluogi pobl hyn i gael dewis o dai arbenigol ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth real i fywydau pobl, gan wella darpariaeth gofal i bobl hyn yn y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Y Fflint i ofalu am bobl sy’n byw gyda dementia yn parhau i adeiladu ar lwyddiant cynlluniau gofal ychwanegol fel Llys Jasmine a Llys Eleanor yn Shotton wrth i Llys Raddington yn y Fflint nesáu at gael ei gwblhau a gyda gwaith yn mynd rhagddo bellach ar gynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon.” Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr dros Tai Wales & West: “Mae Llys Jasmine wedi bod ar agor ers bron i bum mlynedd ac mae’n esiampl dda o sut y gall gweithio mewn partneriaeth wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Mae gan breswylwyr fynediad 24 awr i ofal a chymorth ar y safle, ynghyd â llety o ansawdd uchel wedi’i adeiladu’n bwrpasol, sy’n caniatáu iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Mae’n llwyddiant ysgubol i Sir y Fflint, drwy greu effaith, nid yn unig ar ein preswylwyr, ond cymuned gyfan yr Wyddgrug hefyd.