Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datgelu Hanes y Gweithfeydd Dur

Published: 22/05/2018

Fe fydd arddangosfa newydd sbon yn ymwneud â’r gweithfeydd dur yn cael ei datgelu ddydd Iau, 24 Mai am 2.00pm yn y Quay Watermen’s Association (QWA) Canolfan Dreftadaeth y Kathleen and May, Dock Road, Cei Connah. Fel rhan o gynllun ‘Rhoi’r Cei yn ôl yng Nghei Connah’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri a sicrhawyd gan y QWA, mae Dur Tata yn cyfrannu bwrdd hanes dur 3m x 1m gyda lluniau o’r cludo dur ar longau ar Afon Dyfrdwy. Mae cyn weithwyr dur wedi eu gwahodd i ddod draw i gwrdd â hen gydweithwyr a staff newydd wrth i Ddur Tata ymuno â’r QWA a Chyngor Sir y Fflint i ddarparur dehongliad mwyaf cyfredol o dreftadaeth ddur Sir y Fflint i ymwelwyr a phobl leol. Dywedodd Cadeirydd y QWA Paula Ellis: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ddur Tata am gyfrannu’r panel gwybodaeth hwn ac am gefnogi’r QWA yn ein hymdrechion treftadaeth a chymunedol. “Mae Canolfan Dreftadaeth y QWA yn edrych dros yr afon a’r gweithfeydd dur ac felly dymar lleoliad gorau yn Sir y Fflint i ganfod mwy am Dreftadaeth Ddiwydiannol y sir wrth ymlacio gyda phaned o goffi a darn o gacen yn ein caffi bendigedig. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac aelod lleol: “Dyma’r tro cyntaf i ni allu arddangos gwybodaeth am wreiddiau’r diwydiant dur ar Lannau Dyfrdwy ac rydym yn falch iawn o gefnogir QWA Tata wrth iddynt ddarparu’r cyswllt hwn in cymunedau ei fwynhau drwy Brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri an Gwasanaeth Cefn Gwlad.” “Dwi’n siwr y bydd nifer o weithwyr dur presennol a chyn weithwyr dur, pobl leol ac ymwelwyr syn defnyddio Llwybr Arfordir Cymru wrth eu bodd gyda’r panel a’r amlygrwydd mae’n ei roi i dreftadaeth ddiwydiannol falch yr ardal.” Dywedodd Bill Duckworth, Rheolwr Safle Dur Tata: “Mae’r diwydiant dur yng Nglannau Dyfrdwy wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, ond yr hyn sydd wedi bod yn gyson ywr cysylltiad cryf gydag Afon Dyfrdwy ar rôl y mae wedi ei chwarae yn y diwydiant. “Mae Dur Tata yn Shotton yn hynod o falch o allu cefnogi Canolfan Dreftadaeth y QWA drwy gyfrannur bwrdd hanesyddol a fydd yn helpu cenedlaethaur dyfodol i ddeall beth arferai ddigwydd yma ar rôl bwysig mae wedi chwarae yn llunior gymuned hon. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd cyfres newydd o baneli hanesyddol wedi eu lleoli ar hyd glannaur Afon Dyfrdwy yn cael eu hychwanegu a fydd yn ymdrin â masnach, pysgota, treftadaeth a bywyd gwyllt. Cadwch olwg am y Penwythnos Celfyddydau Morwrol ar Fehefin 2 a 3 a chyfres o weithgareddau ar ôl ysgol a fydd yn dod ag Afon Dyfrdwy yn ôl ir gymuned. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mike Taylor Ceidwad Arfordirol ar 07711 438127 neu’r QWA ar 01244 818029.