Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno System Barcio Talu ac Arddangos yn y Fflint

Published: 24/05/2018

Fel bo gwaith adfywio’r dref yn dod i ben ac yn dilyn cyfnod ymgynghori ffurfiol, bydd talu am barcio ceir yn cael ei gyflwyno yn y Fflint ddydd Mawrth 29 Mai 2018. Gweithredwyd talu am barcio mewn trefi eraill yn 2015, ond cafodd ei ohirio tan rwan yn Sir y Fflint oherwydd y gwaith adeiladu o ran adfywio’r dref. Nid oes unrhyw gynllun i gyflwyno ffioedd i’r rheiny â bathodynnau glas sy’n parcio ym meysydd parcio’r Cyngor mewn mannau parcio dynodedig ir anabl. Mae rhestr lawn o’r ffioedd isod: Allt Goch - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr, £1.50 ar gyfer trwy’r dydd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00 Bollingbroke Heights - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr, £1.50 ar gyfer trwy’r dydd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00 Feather Street - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00 Canolfan Hamdden y Pafiliwn - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr, £1.50 ar gyfer trwy’r dydd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00 Gorsaf Reilffordd - £2.00 ar gyfer trwy’r dydd - Dydd Llun i ddydd Sul yn cynnwys Gwyliau Banc - 08:00 tan 17:00 Richard Heights - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr, £1.50 ar gyfer trwy’r dydd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00 Swan Street - 30c am hyd at 1 awr, 50c am hyd at 2 awr, £1.50 ar gyfer trwy’r dydd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 tan 17:00.