Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croeso Cynnes yn Wepre Court

Published: 29/05/2018

Mae nifer o aelwydydd yn Wepre Court, Cei Connah nawr yn mwynhau buddion ystod o gynlluniau arbed ynni newydd sydd wedi eu gosod yn eu heiddo’n ddiweddar. Mae Cyngor Sir Y Fflint, mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, wedi rheoli trefniadau gosod o nifer o fesurau yn cynnwys: cysylltiad nwy newydd i eiddo gyda chefnogaeth ‘Wales and West Utilities’, gosod insiwleiddiad atig gyda chefnogaeth Wall-Lag a gosod boeler nwy a system gwres canolog gyda chefnogaeth Cronfa Cartrefi Clyd, Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) a Cyngor Sir Y Fflint. Bydd 10 aelwyd sy’n cynnwys tenantiaid cyngor sir, tenantiaid y sector breifat a pherchnogion preswyl yn elwa ac mae’r preswylwyr wrth eu boddau o gael cartref cynnes yn ogystal ag arbedion posib i’w biliau tanwydd. Mae Mr. Howard Shirt, o Wepre Court, yn hynod o hapus gyda’r gwaith a wnaed a dywedodd; “Mae’r gwahaniaeth a wnaed tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau oedd gen i.” Roedd Mr. Shirt wedi plesio gydar ffordd y cafodd yr holl broses o osod y gwaith ei wneud a’r gefnogaeth a’r arweiniad oedd ar gael i breswylwyr. Y perchnogion hyn oedd ymysg y cyntaf i elwa o’r gefnogaeth gan raglen Cronfa Cartrefi Clyd syn cael ei reoli gan Ddatrysiadau Gwres Fforddiadwy, Cwmni Buddiannau Cymunedol, a lansiwyd yn Sir y Fflint ym mis Ionawr 2018. Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrysiadau Gwres Fforddiadwy: “Mae datrys materion yn ymwneud â Thlodi Tanwydd yn parhau i herio nifer o’n budd-ddeiliaid ac mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn yn barod yn rhoi tystiolaeth o sut fydd y Gronfa Cartrefi Clyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ar draws y wlad.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Is-Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Tai; “Mae’n bleser gweld sut mae Cyngor Sir Y Fflint, a’i bartneriaid, yn gwella cartrefi pobl ac wedi gwella bywydau preswylwyr Wepre Court. Gobeithiwn gefnogi llawer mwy o aelwydydd trwy’r Gronfa Cartrefi Clyd dros y 3 mlynedd nesaf. Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Cartrefi Clyd ac i ddarganfod os ydych chi’n gymwys ar gyfer cefnogaeth cysylltwch â: 0800 954 0658 neu healthyhomeshp@flintshire.gov.uk