Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diogelu swyddi lleol yn Sir y Fflint
Published: 18/07/2014
Mae Brakes Group, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a David Wood Baking
Limited, wedi cydweithio i greu pecyn i sicrhau parhâd gweithrediadau
gweithgynhyrchu yn ffatri Creative Foods ym Mharc Aber, y Fflint trwy ddiogelu
swyddir gweithlu presennol.
Maer ffatri sy’n eiddo i Brakes Group, yn cynhyrchu amrywiaeth o brydau wedi
eu paratoi ar gyfer y sector lletygarwch. Yn dilyn adolygiad mewnol mae Brakes
Group wedi penderfynu canolbwyntio ar weithgarwch mewn rhannau eraill o’i
weithrediadau; ac o ganlyniad wedi bod yn chwilio am brynwr ar gyfer Creative
Foods fel busnes gweithredol. Mynegodd nifer o gwmnïau ddiddordeb a chafodd
David Wood Baking Limited o Leeds ei ddewis fel y prynwr a ffafrir.
CCafwyd cefnogaeth trwyr Gronfa Anghenion Lleol a Dargedir a ddyrannwyd gan
Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i gefnogi datblygiad economaidd.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Edwina Hart: “Rwyn falch fod y Gronfa
hon yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi dyfodol hir dymor y busnes ac yn
diogelu nifer sylweddol o swyddi lleol pwysig iawn. Ar y cyfan mae hyn wedi
bod yn ymdrech tîm sydd wedi cyflwyno canlyniad gwych.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Dyma
ganlyniad boddhaol iawn ir hyn a allai fod wedi bod yn sefyllfa anodd iawn.
Mae wedi cynnwys trafodaethau cymhleth rhwng Brakes Group, Llywodraeth Cymru,
David Wood Baking ar Cyngor Sir, ond mae diogelu’r swyddi hyn bob amser wedi
bod yng nghefn ein meddyliau.
Mae Creative Foods wedi bod yn gyflogwr da yn ein sir, maer rhan fwyaf or
gweithlu yn lleol i ardal y Fflint, gyda llawer wedi bod yno am amser hir, rhai
wedi gwneud cymaint â 20 mlynedd o wasanaeth. Maer cytundeb a wnaed â David
Wood Baking yn golygu bod swyddi pob un or 138 o weithwyr yn ddiogel a bod yna
bosibilrwydd o weld rhagor o fuddsoddiad a mwy o swyddi newydd yn y Fflint yn y
dyfodol agos.
“Rwyn ddiolchgar iawn am gydweithrediad y ddau gwmni, yn ogystal â chefnogaeth
Llywodraeth Cymru, wrth ddatrys y mater hwn.