Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansiad Swyddogol y Ganolfan Cymorth Cynnar

Published: 11/06/2018

Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o groesawu Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, i lansio Canolfan Cymorth Cynnar Sir y Fflint yn ddiweddar. Cafodd y cysyniad arloesol ei gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac mae wedi’i greu i ddarparu cymorth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd ag anghenion mwy dwys. Roedd y lansiad yn dathlu cyflawniadau’r ganolfan hyd yma gan rannu straeon cadarnhaol am y ffyrdd rydym wedi cydweithio i gefnogi teuluoedd gyda dau neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn y lansiad, dywedodd Sally Holland: “Mae plant a’u teuluoedd wedi gorfod gweddu i’r gwasanaethau sydd ar gael am ormod o amser, yn hytrach na bod gwasanaethau’n ymateb iw hanghenion nhw. “Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid wedi dechrau ymateb yn fwy hyblyg i anghenion teuluoedd, a chydweithio mwy i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth maen nhw ei angen ar yr adegau iawn – nid pan mae eu problemau’n mynd yn ‘ddigon drwg’ i fod yn gymwys i gael help. “Rydw i’n gobeithio rwan y bydd plant a theuluoedd yn cael y cymorth cynnar cywir maen nhw ei angen.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi rhai on teuluoedd mwyaf bregus. “Y prif nod yw bod sefydliadaun cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol. Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a mynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt waethygu.” Mae’r Ganolfan Cymorth Cynnar yn canolbwyntio’n helaeth ar sefydliadau’n cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai’n elwa o gymorth cynnar.