Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Blasu

Published: 22/07/2014

Bu disgyblion Ysgol Uwchradd Cei Connah yn gweithio fel peintwyr am y dydd yn ystod gweithdy blasu sgiliau diweddar. Trefnwyd y diwrnod blasu adeiladu fel rhan o raglen menter gymunedol ar y cyd rhwng Tîm Rheoli Asedau Tai Cyngor Sir y Fflint, Cymunedau’n Gyntaf a chwmni Bell Group, sy’n cael ei gontractio i gwblhau gwaith ar stoc dai Cyngor Sir y Fflint. Bwriad y gweithdy oedd rhoi blas i ddisgyblion o yrfaoedd ym meysydd peintio, addurno a gwaith coed. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud gwaith ymarferol a chael cyngor megis iechyd a diogelwch, offer a nwyddau, sgiliau ymarferol a chyfleoedd gyrfaol. Dysgodd disgyblion o flwyddyn 10 sgiliau sylfaenol peintio a gwaith coed wrth ailwampio ystafell ddosbarth yn yr ysgol. Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymunedau a Menter yng Nghyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn eithriadol o falch o gael gweithio gyda chwmni Bell Group a Chymunedau’n Gyntaf i ddarparu mentrau Lles Cymunedol drwy ei raglen gwariant cyfalaf, gan uwchraddior stoc dai er mwyn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar yr un pryd”. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn o ran rhoi cyfleoedd i’r gymuned ehangach drwy ein rhaglen ddarparu SATC a diolchwn i gwmni Bell Group am helpu i roi blas o’r hyn sydd gan y diwydiant adeiladu i’w gynnig i’n cenhedlaeth iau.” Ychwanegodd Anna Higham, Rheolwr Buddsoddiadau Cymunedol yn Bell Group: “Rydym wedi cael ein plesio gan gyflymder ac ymroddiad y cyfranogwyr ac mae ein Rhaglen Profiad Gwaith Gwirfoddol sy’n cynnwys pythefnos llawn o brofiad ar safle, wedi cael ei gynnig i bob disgybl wrth iddynt droi 16 oed.” Llun: Disgyblion yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn cymryd rhan yn y diwrnod blasu gyrfa adeiladu.