Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru

Published: 18/11/2022

Climate change.JPGMae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd ar gyfer sgwrs bwysig yn ymwneud â newid hinsawdd. 

Bydd digwyddiad eleni’n cael ei gynnal yn syth ar ôl COP27 a bydd yn para o ddydd Llun 21 Tachwedd tan ddydd Gwener 25 Tachwedd.  

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos.

Dydd Llun 21 Tachwedd 10 - 12pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Gwepra!

Dydd Mawrth 22 Tachwedd -  Lansiad ein e-newyddlen a thudalennau gwe Newid Hinsawdd

Dydd Mercher 23 Tachwedd 10 - 12pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Gwepra!

2 - 4pm – Sesiwn galw heibio i gael cyngor am arbed ynni gan ein tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Woodside Close, Ewlo

Dydd Iau 24 Tachwedd 10 - 1pm – canolbwynt Fy Nghoeden, Ein Coedwig - dewch i gasglu eich coeden am ddim o Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas

Dydd Gwener 25 Tachwedd 10 - 12pm – sesiwn galw heibio i gael cyngor am arbed ynni gan ein tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig, Canolfan Gymunedol Elmwood, Shotton.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Cadarnhawyd Strategaeth Newid Hinsawdd Sir y Fflint yn gynharach eleni ac rydym ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau Cymru Sero Net erbyn 2050 yn ogystal â chyflawni ein nodau lles ein hunain.  

“Gan fod cysylltiad annatod rhwng newid hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn ni hefyd yn cyflawni’n unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth.”   

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: climatechange@flintshire.gov.uk