Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Maes Gwern, Yr Wyddgrug
  		Published: 15/06/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cynigion i ddatblygu 48 cartref 
cymdeithasol, rhannu ecwiti newydd, a fydd â rhent fforddiadwy, ym Maes Gwern, 
yr Wyddgrug, pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin.
 
Mae datblygu’r safle hwn yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor ac wedi cael 
cytundeb ymlaen llaw i’w gynnwys o fewn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 
(SHARP). Bydd hyn yn dod â chyfanswm yr eiddo wedi’u cwblhau, wediu cymeradwyo 
mewn egwyddor neu wediu cymeradwyo gan y Cyngor, i 293.
 
Gofynnir i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cyllid drwy fenthyca darbodus 
(fforddiadwy), i’w ddefnyddio i ariannu’r datblygiad arfaethedig o dai newydd y 
Cyngor, a chymeradwyor defnydd o gronfeydd wrth gefn rhannu ecwiti o £0.270m 
ar gyfer yr elfen fforddiadwy o’r cynllun hwn.
 
Rhoddwyd cymeradwyaeth y Cabinet yng Ngorffennaf 2017 i werthu tir ym Maes 
Gwern, yr Wyddgrug, i Wates Residential am brisiad marchnad agored annibynnol y 
cytunwyd arno.
 
Bydd y cynllun arfaethedig yn gweld datblygiad o 160 annedd breswyl newydd, yn 
dai, yn rhandai ac yn fyngalos. Bydd hwn yn gynllun cymysg yn cynnwys 112 eiddo 
(70%) wedi’u gwerthu ar gyfer gwerthiannau marchnad agored, ochr yn ochr â 48 
(30%) o ddarpariaeth tai fforddiadwy, a fydd yn cynnwys eiddor Cyngor, ac 
eiddo rhent fforddiadwy a phrynu fforddiadwy, yn unol â pholisïau a 
gweithdrefnau cynllunio fforddiadwy’r Cyngor.
 
Mae’r cynllun arfaethedig wedi’i ddylunio i adlewyrchu thema “pentref gardd”, 
gydar pwyslais ar ryngweithio rhwng man cyhoeddus a phreifat, a chysylltedd 
cerddwyr a beicio rhagorol â Chanol Tref yr Wyddgrug. Mae’r llwybrau cerdded a 
beicio arfaethedig wedi’u datblygu’n dilyn ymgynghoriad hir gyda grwpiau 
diddordeb budd-ddeiliad lleol, ac wedi’u hystyried ar sail lle bydd pobl yn 
symud iddynt, ac oddi yno, yn y datblygiad a thrwy’r datblygiad.
 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
 
“Mae hwn yn gam cyffrous arall yn ein taith i ddarparu eiddo syn fforddiadwy 
iw rhentu au prynu yn Sir y Fflint.  Yn ogystal â Maes Gwern, mae’r Cyngor 
wedi cwblhau gwaith adeiladu ar Ffordd Alexandra yn yr Wyddgrug, lle mae 16 
eiddo newydd y Cyngor yn cael eu datblygu. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cyfleoedd 
cyfartal i bobl sy’n byw yn yr Wyddgrug i gael mynediad at eiddo Cyngor, eiddo 
rhent fforddiadwy ac eiddo rhannu ecwiti yn y dref.
 
“Bydd Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob cynllun a 
argymhellir, i sicrhau y gwneir y gorau o gyfleoedd i bobl leol.”