Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 18/06/2018

Nes ymlaen y mis hwn, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu adroddiad drafft ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyried a ywr adroddiad yn darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Hon yw ail flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Er gwaethaf pwysau ariannol a chapasiti, mae Sir y Fflint wedi parhau i gynnal a gwellar gefnogaeth a roddir i’n dinasyddion mwyaf bregus. Mae gan y Cyngor lawer iw ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys: 1. Cynnal adolygiad strategol mewn partneriaeth gyda’n budd-ddeiliaid gan adnabod nifer o fentrau i wella’r sector gofal, er enghraifft, datblygu gwefan Care@Flintshire sy’n cefnogi darparwyr i recriwtio a chadw staff, hyfforddi, hysbysebu digwyddiadau, rhannu arfer da a rhwydweithio gyda’i gilydd. 2. Ymrwymo i bartneriaeth gyda Hft, elusen genedlaethol sydd yn arbenigo mewn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu i gyflwyno gwasanaethau dydd a gwaith gwell ar draws Sir y Fflint. 3. Ymrwymo i fuddsoddi £4miliwn o’n rhaglen gyfalaf ar gyfer canolfan anableddau dysgu gymunedol newydd a fydd yn cymryd lle yr hen ganolfan ddydd Glanrafon yn Queensferry. 4. Sefydlu Canolfan Cymorth Cynnar arloesol aml-asiantaeth sydd yn arwain y sector yn Sir y Fflint, a gafodd ei lansio’n swyddogol yn gynharach y mis yma gan Gomisiynydd Plant Cymru. 5. Gweithredu cynllun peilot Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Mae arwyddion cynnar yn dangos bod y cynllun yn un or prif wasanaethau yng Nghymru sy’n cefnogi pobl nôl mewn i waith, yn lleihau’r risg o dlodi ac yn cefnogi lles plant. Yn wir, gofynnwyd i’n tîm yn Sir y Fflint i ymestyn y cynllun mewn i Wrecsam a Sir Ddinbych. Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r adroddiad cynhwysfawr yma’n gosod sefyllfa gadarnhaol y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi dinasyddion mwyaf diamddiffyn yn y sir. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhaglen lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu henw da cadarnhaol”. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint: “Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg on perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Mae’n braf gweld bod gwaith da wedi cael ei gyflawni yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod economaidd mor heriol sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau”. Mae blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys: · Gwneud y wybodaeth ar y wefan yn fwy ystyrlon i unigolion iw helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir i gefnogi eu lles. · Gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl ymadawyr gofal, gan gynnwys ymrwymiad iw helpu i fod yn barod ar gyfer gwaith. · Parhau ân gwaith ar gyfer prosiectau Gofal Ychwanegol y Fflint a Threffynnon. · Parhau i ddatblygu gwasanaeth dydd Glanrafon, mae disgwyl i’r adeilad newydd gael ei gwblhau ym mis Mai 2019. · Datblygu cynigion ar gyfer ymestyn Cartref Gofal y Cyngor, Marleyfield House. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint erbyn 31 Gorffennaf 2018.