Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marchnad Nadolig yr Wyddgrug

Published: 07/12/2022

FB_IMG_1670404117039.jpgMewn partneriaeth â Chyngor Tref yr Wyddgrug, cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint Farchnad Nadoligaidd lwyddiannus dros ben ddydd Sul 4 Rhagfyr.Roedd yr Wyddgrug dan ei sang wrth i filoedd o bobl ymweld â 70 o stondinau marchnad ar y Stryd Fawr, Sgwâr Daniel Owen, Marchnad Dan Do yr Wyddgrug a Chanolfan Daniel Owen.  Roedd y stondinau yn gwerthu anrhegion, crefftau, planhigion, dillad, bwyd a diod.

Nid siopa Nadolig oedd yr unig weithgaredd!  Roedd llawer o adloniant ar gael i’r teulu cyfan am ddim hefyd.  Ar Sgwâr Daniel Owen roedd Glôb Eira ANFERTH gyda Siôn Corn tu mewn er mwyn i bobl gael cyfle i dynnu llun Nadoligaidd unigryw.  Hefyd ymddangosodd cymeriadau The Grinch a Cindy Lou, cymeriadau Disney Elsa ac Anna o Frozen a Mickey a Minnie Mouse yn ogystal â’r Corachod Drygionus.  Parhaodd y naws Nadoligaidd trwy gydol y dydd gyda cherddoriaeth a chanu gan Fand Cyngerdd Tref yr Wyddgrug, Côr y Pentan, The Rock Choir, Band Brenhinol Bwcle a chôr Mountain Harmony.

Dywedodd Aelod Cabinet yr Economi Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Croesawyd Marchnad Nadolig yr Wyddgrug yn ôl gan ddenu miloedd o ymwelwyr i’r dref i gefnogi stondinwyr, siopau canol y dref a’r economi ymwelwyr yn ogystal â dod â’r gymuned ynghyd unwaith eto”.

Dywedodd un stondinwr, Shane Mellor:

"Rydyn ni yn y Great British Bakehouse wrth ein boddau yn dod i’r Wyddgrug! Mae’r trigolion lleol bob amser mor gefnogol ohonom ni a’r farchnad.  Mae’n braf cael digwyddiadau hyfryd fel hyn i gael cyfle i ddweud diolch. Roedd yr adloniant ar Sgwâr Daniel Owen yn wych ac roedd yn bleser gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau eu hunain.  Ar ddyddiau fel hyn nid yw’n teimlo fel gwaith. Da iawn yr Wyddgrug!”

Nodyn: Llun gan Cyngor Tref yr Wyddgrug