Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dadgymhwyso TAN1

Published: 18/06/2018

Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r sail ar gyfer ymateb cadarn i Lywodraeth Cymru’n cefnogi dadgymhwyso paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1), pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin. Mae’r cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddadgymhwyso paragraff 6.2 yn cael cefnogaeth lawn, a bydd Cyngor Sir y Fflint yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y symudir ymlaen ag adolygiad cynhwysfawr ac eang, cyn gynted â phosibl. Byddai hyn yn lleihau’r pwysau sy’n gysylltiedig â diffyg cyflenwad tir pum mlynedd, wrth ystyried ceisiadau ar gyfer datblygiad tai ar hap. Byddai hyn yn cyfrannu dipyn at liniaru rhai or pwysau eithafol syn wynebur Cyngor ai gymunedau ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau ar hap. Tra bod Sir y Fflint ar hyn o bryd yn un o bedwar Awdurdod Cynllunio Lleol na all ddangos cyflenwad pum mlynedd, gan nad ydynt â Chynllun Datblygu Lleol wedi’i fabwysiadu, o’r 21 Awdurdod Cynllunio Lleol sydd â Chynllun Datblygu Lleol, dim ond chwech sy’n gallu dangos cyflenwad tir pum mlynedd. Mae hyn yn dangos yn glir nad yw cael Cynllun Datblygu Lleol wedii fabwysiadu yn ‘sicrhau’ cyflenwad pum mlynedd, ac yn fwy sylfaenol, mae rhywbeth yn amlwg o’i le gyda’r dull cyfredol a gymerir gyda’r dull polisi TAN1. Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Diolch i’r drefn, mae’r materion a’r pwysau ar Awdurdodau Cynllunio Lleol a chymunedau wediu creu gan y polisi presennol bellach wediu cydnabod gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor yn cytuno gydar bwriad i ddadgymhwyso, ac yn ei gefnogi’n llawn, ond mae angen i hyn ddigwydd, nid yn unig am hyd yr alwad am dystiolaeth, ond hyd nes bydd canlyniad o’r adolygiad yn hysbys. Bydd hyn yn lliniaru dipyn ar y pwysau rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, i dderbyn datblygiad ar hap yn ddiamod, fel y penderfyniad diweddar iawn i gymeradwyo’r datblygiad o 186 uned ym Mhenymynydd, a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r Cyngor â nifer o geisiadau ar hap ar y gweill, ac sydd eto i fod yn destun penderfyniad, i gael 1,037 o unedau eraill mewn rhannau amrywiol o’r Sir.” Bydd hyn hefyd yn galluogi’r Cyngor i gynnal ei ffocws o symud ymlaen â’r Cynllun Datblygu Lleol, sydd mewn cam critigol o ran paratoi cynllun adneuo, lle mae’n rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau am ddyrannu safleoedd digonol a chynaliadwy i fodloni gofynion tair cynllun.