Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau gwastraff ac ailgylchu i’w hystyried

Published: 11/01/2023

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint i adolygu cynigion ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu pan fydda nhw’n cwrdd y mis hwn.

Mae adolygiad yn hanfodol gan ein bod angen canolbwyntio ar gyflawni targedau ailgylchu statudol ac i gyrraedd y lefelau yr oeddem yn eu cyrraedd cyn Covid.   Gall methu a chyrraedd ein targedau olygu dirwyon sylweddol gan Lywodraeth Cymru am dorri rheolau. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Mae’n rhaid i ni ystyried y ffordd orau i ni gynyddu ein hailgylchu a lleihau gwastraff yn ogystal ag osgoi dirwyon sylweddol gan Lywodraeth Cymru.   Dim ond cynnig ar hyn o bryd yw gwneud newid i ba mor aml y gwneir casgliadau gwastraff bin cyffredinol - nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud.   Ystyriwyd y cynigion yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr yn y pwyllgor craffu yr wythnos hon gydag un cynnig yn cael ei gyflwyno i’r cynghorwyr i beilota llai o gasgliadau mewn ardal.   Bydd y cynigion yn cael eu hystyried eto yr wythnos nesaf pan fydd y Cabinet yn cwrdd.  

“Mae adolygiad o’n strategaeth gwastraff yn angenrheidiol a ninnau wedi bod yn perfformio ar ein gorau yn 2018-19 ar 69.16%, mae ein lefelau perfformio ailgylchu yn Sir y Fflint wedi lleihau yn sylweddol, flwyddyn ar flwyddyn, a rwan rydym yn methu cyflawni’r targedau.

“Fel gyda’r holl awdurdodau lleol, mae Sir y Fflint dan rwymedigaeth a thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a allai achosi dirwyon anferth drwy beidio â’u cyflawni nhw.   Yn 2021-22 methodd y targed ailgylchu o 3,314 tunelli a ellir ei gymharu i ddirwy torri rheol posib o £662,888 os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cyflwyno cosb ariannol.   Yn amlwg dydi hynny ddim yn gynaliadwy nag yn fforddiadwy.

“O ganlyniad rydym angen gwneud mwy a gwneud ein rhan ar gyfer y blaned, sy’n cynnwys edrych ar ein harferion gwastraff - lleihau'r hyn yr ydym yn ei daflu i ffwrdd, ail-ddefnyddio eitemau pan fo hynny’n bosib ac ailgylchu cymaint ag y gallwn ar ymyl y palmant ac mewn llefydd eraill hefyd.”

Mae gorfodaeth gwastraff ar yr ochr angen parhau i sicrhau mai dim ond gwastraff dros ben sy’n cael ei gyflwyno i’w gasglu yn y bin gwastraff dros ben (bin du) a bod preswylwyr yn cymryd rhan llawn yn y broses o ailgylchu.

Yn ogystal â hynny gofynnir i’r Cabinet ystyried cynyddu’r ffi ar gyfer casgliadau gwastraff gardd gynnar ac ar-lein o £1, o £32 i £33.  Bydd unrhyw daliadau eraill (heb gynnwys taliadau ar-lein) yn cael eu gwneud ar ôl 1 Mawrth yn aros yn £35.  Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Stryd yn wynebu pwysau ar y gyllideb o £50,000 oherwydd cynnydd mewn costau gweithredol, oherwydd peidio â chynyddu’r ffi tanysgrifio ar gyfer gwastraff gardd ers 2018-19.   Amcangyfrifir y byddai cynnydd o £1 yn golygu £32,000 ychwanegol a fyddai’n cyfateb i gynnydd o ddim ond 5 ceiniog i bob casgliad, a chefnogwyd hynny gan y cynghorwyr yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu'r wythnos hon.