Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar Gynnydd Gwerth Cymdeithasol

Published: 11/01/2023

Yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, bydd Cabinet Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar y cynnydd a wnaed i ddarparu’r rhaglen gwerth cymdeithasol. 

Roedd gan y Cyngor ymrwymiad i ddarparu gwerth cymdeithasol gwell drwy’r gwaith mae’n ei wneud; sy’n golygu cael buddion gwell i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i’w wariant a gwasanaethau.  Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i raglen barhaus o waith gwerth cymdeithasol trwy wneud swydd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol yn un barhaol.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwerth cymdeithasol a ddarparwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 (£3.229 miliwn) ac ar gyfer chwe mis cyntaf 2022-23 (£3.156 miliwn).  

Mae’r gwerth cymdeithasol gwirioneddol a ddarparwyd wedi golygu canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sylweddol yn lleol, i Sir y Fflint. Mae rhai o’r uchafbwyntiau allweddol a gofnodwyd ar gyfer 2021-22 yn cynnwys:

  • Oddeutu £2.1miliwn o wariant lleol.
  • 101 o wythnosau hyfforddi prentisiaeth wedi’u cwblhau.
  • £11,938 o gyllid cymunedol mewn nwyddau wedi’i gyfrannu.
  • 364 o oriau gwirfoddoli staff wedi’u rhoddi i gefnogi cymunedau lleol.
  • 24 o drigolion lleol wedi’u cyflogi’n gyfwerth â llawn amser.
  • 49 o oriau wedi’u buddsoddi i gefnogi mentrau addysgol gydag ysgolion a cholegau lleol.
  • 39 o wythnosau o leoliadau gwaith wedi’i ddarparu i drigolion.

Mae rai o’r uchafbwyntiau allweddol a gofnodwyd ar gyfer Ebrill - Medi 2022 yn cynnwys:

  • Oddeutu £2.8miliwn o wariant lleol.
  • 200 o wythnosau hyfforddi prentisiaeth wedi’u cwblhau.
  • 190 o wythnosau hyfforddi unigolion wedi’i gwblhau.
  • 135 o oriau gwirfoddoli staff wedi’u rhoddi i gefnogi cymunedau lleol.
  • 1,474 o oriau wedi’u rhoddi i gefnogi pobl ifanc i mewn i gyflogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael:

 “Mae darparu mwy o werth cymdeithasol yn parhau i fod o fantais i bobl ar draws Sir y Fflint. Rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae wedi ei gael hyd yn hyn ac rydym eisiau adeiladu ar ein cyflawniadau. Rwy’n falch fod Sir y Fflint wedi’i gydnabod fel arweinydd yng Nghymru ar gyfer Gwerth Cymdeithasol.

“Mae Gwerth Cymdeithasol yn fenter allweddol i helpu ein Cyngor i ddangos sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad.”