Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Deulu Gronant - helpu’r amgylchedd

Published: 18/01/2023

family info service logo.jpgMae Canolfan Deulu Gronant sy’n rhan o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn mwynhau gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymuned leol.   Dyma ambell stori galonogol i godi calon ar nosweithiau oer a thywyll!

Annog y gwenoliaid!

Y gaeaf hwn maen nhw wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar brosiect i gynnwys y gymuned ond hefyd i helpu ein bywyd gwyllt. 

Mae Gronant yn ardal boblogaidd iawn ar gyfer gwenoliaid a gan fod y rhywogaeth dan fygythiad ac yn dirywio mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i’w helpu nhw.  Dyma nhw’n edrych ar y lle gorau i osod lloches - man cysgodol, yn uchel i fyny ac yn wynebu’r gorllewin. Gosodwyd y lloches ym mis Rhagfyr.

Swift Boxes small.jpgMae’r safle yn un delfrydol - i fyny’n uchel ac uwchben to fflat ac mewn lleoliad sy’n weladwy i’r plant o’r lleoliadau plant.   Mae’r ganolfan hefyd eisiau cynnwys y plant mewn holiaduron i gofnodi gweithgaredd a’i fwydo yn ôl i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.   Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi darparu ffeiliau sain i’r plant eu chwarae yn y gwanwyn i annog y gwenoliaid i nythu yno.   

Coeden ar gyfer y Jiwbilî 

Mae’r Ganolfan wedi bod yn gartref i Sefydliad y Merched ers blynyddoedd.   Dyma grwp rhagweithiol ac egnïol sy’n cadw’n brysur ac yn weithgar gyda phrosiectau a gweithgareddau gwahanol a diddorol. 

O gwmpas cyfnod Jiwbilî platinwm y Frenhines fe ofynnodd y grwp os fyddai’n bosib plannu coeden ar y tir i dalu teyrnged i’r digwyddiad.   Dyma nhw’n dewis coeden geirios sy’n blodeuo. Coeden ddelfrydol i fwynhau blodyn y gwanwyn. 

WI Tree Planting 3.jpgArchebwyd y goeden ond nid oedd ar gael tan yr Hydref - amser plannu coed.   Yn anffodus, bu’r Frenhines farw ym mis Medi.   Ond penderfynwyd plannu coeden yr un fath ym mis Tachwedd gyda phawb yn ymgasglu i dalu teyrnged a dangos parch i’r Frenhines.   Mynychodd y plant o’r lleoliadau plant hefyd a dyma nhw’n mwynhau cymryd rhan yn y plannu.  Cafodd carreg ei gosod i nodi’r achlysur ac mae pawb yn edrych ymlaen rwan i weld y goeden yn blodeuo yn y gwanwyn. 

Am fwy o wybodaeth ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, cysylltwch â fisf@flintshire.gov.uk, FIS Facebook page neu ffoniwch 01352 703500.