Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arweinwyr Ifanc y dyfodol!

Published: 18/01/2023

20230109_131405156_iOS.jpgYr wythnos ddiwethaf bu i fyfyrwyr o Ysgol Derwenfa ymuno ag Arweinwyr Ifanc MPCT‘ ac roeddent wrth eu boddau!

Mae ‘Arweinwyr Ifanc MPCT’ yn rhaglen addysg cymeriad unigryw, wedi ei hanelu at roi’r gwerthoedd a rhinweddau i ddysgwyr i ddatblygu gwytnwch, empathi a sgiliau cyflogadwyedd trwy ethos milwrol ysgafn.

Bu i’r myfyrwyr dreulio amser yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gyda staff i ddatblygu sgiliau allweddol, yn arbennig hunanddisgyblaeth.  Dangoswyd hefyd iddynt sut i orymdeithio a sefyll yn syth yn dilyn gwahanol orchmynion a pharhau i ganolbwyntio.  

Dywedodd Laura Cartwright a John Jones, athrawon dosbarth:

“Bu i’r ddau ddosbarth wir fwynhau’r gweithgareddau ac elwa llawer ohonynt.  Hoffem ddiolch i MPCT am eu hamser, maent wir wedi ysbrydoli’r plant i weithio tuag at eu nodau a chyflawni eu potensial llawn. 

Yn Ysgol Derwenfa rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi sy’n cyfrannu at ddatblygiad eu cymeriad a pharatoi’r plant ar gyfer byd gwaith y dyfodol, trwy ddatblygu sgiliau bywyd trosglwyddadwy.”

Sylwadau gan rai o’r myfyrwyr:

“Roeddwn wir yn hoffi’r lloches! Ac roedd y ddisgyblaeth yn wych ond anodd!”

“Roeddwn yn hoffi pan fu i ni adeiladu den yn y goedwig, roedd yn hwyl.”

“Roeddwn wir yn ei hoffi. Fe wnaeth fy nysgu i barchu eraill a fi fy hun. Roedd hefyd yn llawer o hwyl ac roedd y ddisgyblaeth yn hwyl. Roeddwn yn hoffi bob dim amdano”.

Dywedodd Mike Dodd (Tiwtor MPCT):

“Roedd yn bleser dysgu’r dosbarth hwn. Roedd yr ymgysylltiad trwy gydol y wers yn anhygoel, ac ar ôl cyflwyniad ar gymeriad, bu i ni gael ychydig o weithgareddau gan gynnwys iechyd a maeth, gwaith tîm a hunanddisgyblaeth.  Ar y cyfan, roedd y dysgwyr yn wych, bu i mi wir fwynhau eu dysgu ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi nhw a’r ysgol ymhellach yn y Flwyddyn Newydd.”