Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croeso i dy bleidlais!

Published: 27/01/2023

WTYVW_Twitter_Register1_Welsh_Green.pngYn ystod wythnos Croeso i Dy Bleidlais (30 Ionawr – 5 Chwefror), mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pobl ifanc i feddwl am gofrestru i bleidleisio.

Yng Nghymru gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol. 

Mae pawb eisiau gweld newid cadarnhaol yng Nghymru. Ond, er mwyn i ddemocratiaeth weithio i bawb, rydym angen i bobl ifanc yng Nghymru gymryd rhan.   

Gellwch gofrestru i bleidleisio ar-lein drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol arnoch a dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd i gofrestru.

Dylech dderbyn eich Rhif Yswiriant Gwladol ychydig fisoedd cyn eich pen-blwydd yn 16, felly pan fyddwch yn ei dderbyn, meddyliwch ar unwaith am gofrestru i bleidleisio fel eich bod yn barod pan fydd yr etholiadau nesaf yn digwydd.

Os oes arnoch angen cymorth i ddod o hyd i’ch Rhif Yswiriant Gwladol, ewch i www.gov.uk/lost-national-insurance-number neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 200 3500. 

Ceir rhagor o wybodaeth yma.