Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathliadau pen-blwydd Esther yn 102 owed!
  		Published: 15/06/2018
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i 
ddathlu pen-blwydd arbennig iawn. 
Bu Esther Critchley yn dathlu ei phen-blwydd yn 102 oed yng Nghartref Gofal 
Preswyl Croes Atti ar 13 Mehefin ac aeth y Cynghorydd Paul Cunningham a’i 
wraig, Mrs Joan Cunningham i ymweld â hi’r wythnos yma.  
Cafodd Esther ei geni ar Fferm Pen Ucha Mynydd, Sychdyn ym 1916. Hi oedd merch 
ganol John a Mary Morrison ac aeth i ysgol Sychdyn cyn cael yr ysgoloriaeth i 
fynd i Ysgol Ramadeg yr Wyddgrug.  
Gadawodd Esther yr ysgol yn 14 oed ac aeth i weini i Southport am 3 blynedd. 
Yna, aeth i Bontblyddyn cyn mynd i Cornist Hall yn y Fflint i weithio i’r teulu 
Summers. 
Priododd â Ralph Blackwell ym mis Ebrill 1940 ac aeth i weithio i Dr Ross yn y 
Fflint, cyn geni ei merch, Maureen, ym 1944. Un uchafbwynt ym mywyd Esther oedd 
cyfarfod y Frenhines ym 1953 ar ymweliad gwladol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn 
y Rhyl.  Bu farw ei gwr cyntaf ym 1988 ac fe briododd Donald Critchley ym 1992, 
cyn hedfan dramor am y tro cyntaf yn ei bywyd ar wyliau. Bu Esther yn byw yn 
Sychdyn tan 2009 pan symudodd i Gartref Gofal Preswyl Croes Atti yn y Fflint, 
lle mae wedi bod yn hapus ac wedi derbyn gofal da.