Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgyrch Hey Girls! yn dychwelyd am yr ail flwyddyn

Published: 09/02/2023

Hey Girls image 1 new.jpgBydd plant a phobl ifanc sy’n mynychu ysgolion Sir y Fflint yn gallu derbyn nwyddau mislif cynaliadwy am ddim wedi eu danfon yn uniongyrchol at garreg eu drws o 3 Chwefror 2023, diolch i’r bartneriaeth barhaus rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hey Girls – cwmni nwyddau mislif yn y DU sydd wedi ennill sawl gwobr.

Datblygwyd y rhaglen gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo urddas mislif ledled Cymru.

Hyd yn hyn, mae Hey Girls wedi dosbarthu 1.7 miliwn o nwyddau mislif drwy’r fenter pecynnau i’r cartref. Yn ogystal â Chyngor Sir y Fflint, mae cynghorau eraill ym Mhowys, Sir Ddinbych, Fife, Falkirk a Chaeredin a Choleg Inverness wedi dechrau defnyddio gwasanaeth pecynnau mislif cartref Hey Girls.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae hon yn fenter ardderchog a fu’n boblogaidd iawn y llynedd – y flwyddyn gyntaf i ni ei chynnal.  Rwy’n llwyr gefnogi bod y nwyddau mislif hyn ar gael am ddim i’n dysgwyr ifanc. Mae’r mater sensitif hwn yn aml yn anodd ac yn bwnc “tabw”, a gall merched ifanc yn benodol deimlo stigma a theimlo’n fregus.  

“Bydd gallu archebu nwyddau am ddim ar-lein, sy’n cael eu danfon i’w cartref, yn sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw amser yn yr ysgol, a gallant gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau.”

Nid oes cemegion yn nwyddau Hey Girls, maent wedi eu gwneud mewn modd cyfrifol ac o ddeunyddiau eco-ymwybodol, gan gynnwys poteli dwr wedi eu hailgylchu, cotwm organig a bambw cynaliadwy. 

Dywedodd Celia Hodson, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hey Girls:

“Mae nwyddau mislif yn hanfodol, ond maent yn ddrud. Gall cyllidebau tynn orfodi pobl i flaenoriaethu prynu pethau eraill, gan eu gadael heb gynnyrch cywir ar gyfer eu mislif, heb ddigon o gynnyrch, neu heb unrhyw gynnyrch o gwbl.

“Mae cynyddu’r gallu i gael gafael ar nwyddau mislif yn bwysig iawn. Gall nwyddau am ddim gadw pobl yn yr ysgol, gwella’r gallu i ganolbwyntio, annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, a hybu iechyd da. Maent yn atal pobl rhag gorfod gwneud penderfyniadau sy’n eu dad-ddynoli – drwy wisgo’r cynnyrch anghywir, neu gynnyrch o safon is, neu wisgo cynnyrch am fwy o amser nag sy’n ddiogel neu lân. 

“Yn Hey Girls rydym yn credu bod cael gafael ar nwyddau mislif safonol yn hawl, nid braint. Mae nwyddau am ddim yn cynorthwyo i ddod â thlodi mislif i ben, ac maent hefyd yn hyrwyddo urddas mislif.”

Mae Hey Girls yn fenter gymdeithasol nwyddau mislif, sydd wedi ennill sawl gwobr. Am bob cynnyrch mae’n ei werthu, mae’n cyfrannu cynnyrch cyfatebol i rywun mewn angen. Ers sefydlu’r cwmni buddiannau cymunedol yn 2018, mae Hey Girls wedi rhoddi dros 30 miliwn o nwyddau mislif. Ei nod yw cynorthwyo i ddileu tlodi mislif, galluogi gwell mynediad at nwyddau mislif safonol i bawb a chael gwared â’r stigma a’r mythau sy’n ymwneud â’r mislif.

Os ydych chi rhwng 8 a 18 oed ac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint, ewch i heygirls.co.uk/flintshirehomepacks i wneud cais am nwyddau mislif am ddim.