Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taclo’r ‘ych-a-fi’ i ryddhau pwer eich ailgylchu gwastraff bwyd 

Published: 09/02/2023

WRAP_BM_Static_16X9_BATTERY_WEL.jpgEfallai mai gwlad fach yw Cymru, ond rydyn ni’n wlad gref wrth ailgylchu. Mae 95% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff yn rheolaidd, rydyn ni eisoes yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, a nawr rydyn ni’n gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu i gefnogi eu Hymgyrch Gwych i gael Cymru i rif 1.

Dyna pam rydyn ni’n galw ar ein preswylwyr i roi hwb i’w hymdrechion wrth ailgylchu gwastraff bwyd.  

Er bod bron i holl ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eitemau bob dydd fel cardbord, nwyddau ymolchi o’r ystafell ’molchi, a photeli plastig, mae llawer yn parhau i beidio ag ailgylchu eu holl wastraff bwyd. A dweud y gwir, mae tua thraean yr hyn sydd ym miniau sbwriel cyffredinol trigolion Sir y Fflint yn dal i fod yn fwyd a allai gael ei ailgylchu. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n casglu mwy o wastraff bwyd drwy gasglu biniau du bob pythefnos nag yr ydym ni’n ei wneud drwy’r casgliadau ailgylchu wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd!

Mae pwer yn ein gwastraff bwyd – mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru’n cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig, ble caiff ei droi’n ynni gwyrdd. Ailgylchodd trigolion Cymru ddigon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi’r llynedd, ond gydag oddeutu 100,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd – digon i bweru 7,500 yn rhagor o gartrefi – caiff yr ynni adnewyddadwy hwn sy’n brwydro newid hinsawdd ei golli am byth.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol, Cyng Dave Hughes:  

“Rydym ni’n cefnogi’r ymgyrch hon oherwydd bod angen i bawb wneud mwy a gwneud eu rhan er budd y blaned, sy’n cynnwys ystyried ein harferion o ran gwastraff - mae’n rhaid i ni wneud pob ymdrech i leihau’r hyn yr ydym ni’n ei daflu - yn cynnwys lleihau gwastraff bwyd, ailddefnyddio eitemau pan fo hynny’n bosibl ac ailgylchu cymaint ag y gallwn ni ar ymyl palmant ac fel arall.   

“Rydym ni i gyd yn cynhyrchu rhywfaint o wastraff bwyd nad oes modd ei osgoi - fel plisgyn wy, esgyrn, bagiau te a philion - y dylai gael eu hailgylchu (os nad ydyn nhw’n cael eu compostio gartref) i gynhyrchu ynni gwyrdd i helpu i roi pwer i gymunedau yng Nghymru.”   

Datgelodd ymchwil WRAP Cymru mai’r rhwystr pennaf yw’r elfen ‘ych-a-fi’, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn petruso oherwydd y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau a llanast. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos, ac mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu’n cael ei gasglu’n llai aml. 

Rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel – fel plisg wyau, esgyrn, bagiau te a chrafion llysiau a ffrwythau – a dylid ei ailgylchu (os nad yw’n cael ei gompostio gartref) i greu ynni gwyrdd i helpu i bweru cymunedau yng Nghymru. 

Dyma 5 tip defnyddiol ichi gan Cymru yn Ailgylchu:

  1. Defnyddiwch fag leinio cadi ¬– Bydd leinio eich cadi cegin yn cadw’ch gwastraff bwyd yn well, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a’i atal rhag mynd yn ych-a-fi. Rhowch fagiau leinio mewn cadi glân, sych, a gwnewch yn siwr nad ydych chi’n ei orlenwi, i osgoi torri’r bag leinio. 
  2. Osgowch eitemau hylifol – Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o’ch cadi i atal ‘sudd bin’ rhag casglu’n ei waelod. Cewch arllwys symiau bach o’r eitemau hyn i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddwr i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio’r draeniau.
  3. Gwagiwch eich cadi gwastraff bwyd yn rheolaidd – gwagiwch gynnwys eich cadi cegin i’r bin gwastraff bwyd ar garreg y drws yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn orlawn, i atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu’r bagiau leinio cadi’n dynn cyn eu symud o’ch cadi i’ch bin. Os aiff eich cadi i ddrewi, yna mae’n bryd ichi wagio ei gynnwys i’ch bin gwastraff bwyd ar garreg y drws a dechrau o’r newydd gyda bag leinio newydd.
  4. Cadwch gaead arno – Efallai ei fod yn swnio’n amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd iddo, ac yn atal arogleuon rhag dianc. Cofiwch hefyd gau’r caead cloadwy ar eich bin y tu allan yn sownd, i atal pryfetach a phlâu, a diogelu yn erbyn tywydd gwyntog.
  5. Cadwch eich cadi’n lân – Glanhewch eich cadi cegin bob ychydig wythnosau. Rhowch rinsiad iddo yn y sinc. I lanhau eich cadi’n fwy trwyadl, gallwch ei ddiheintio gyda dwr poeth dros ben o’r tegell ac ychydig o hylif golchi llestri. 

Os oes gennych lemon dros ben na fydd yn cael ei fwyta fel arall, gallech rwbio ei du mewn yn erbyn tu mewn eich bin. Mae’n ddiaroglydd naturiol a bydd yn helpu i ladd unrhyw germau a allai fod yn llechu yno. 

Am ragor o haciau a tips, ac i ddarganfod sut mae eich gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i fwrw golwg ar Cymru yn ailgylchu, ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha.