Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn chwifio’r faner

Published: 13/02/2023

LGBT flag (2 of 4).jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi’r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT+) ym mis Chwefror. 

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, a mudiadau hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. 

Mae hefyd yn amser i gofio’r gwahaniaethu mae llawer wedi ei wynebu a’r daith tuag at gydraddoldeb LHDT+. 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae codi’r faner enfys yn bwysig i’r Cyngor. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis hanes LHDT+ yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a’n cymuned ehangach”.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan https://lgbtplushistorymonth.co.uk/

Photo L-R: Cllr. Billy Mullin, Cabinet Member for Governance and Corporate Services; Cllr. Mared Eastwood, Chair of the Council; Steven Goodrum, Democratic Services Manager;  Denise Price, Business Manager, Community and Housing ; Sian Jones, Community & Business Protection Manager; Margaret Parry-Jones, Overview & Scrutiny Facilitator; Fiona Mocko, Strategic Policy Advisor.