Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datblygu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed 

Published: 17/02/2023

Ageing well in Wales.jpgGofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r cynnig i’r Cyngor gyflwyno cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd Eang Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed, Sefydliad Iechyd y Byd, pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 23 Chwefror 2023.  

Lansiodd Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’ ym mis Hydref 2021. Mae’r strategaeth hon yn darparu gweledigaeth i Gymru fod yn genedl sy’n gyfeillgar i oed - gan gefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio’n dda a chymryd rhan yn eu cymuned.  

I gefnogi’r weledigaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd pob awdurdod lleol i wneud cais am aelodaeth o rwydwaith byd eang Sefydliad Iechyd y Byd. Yn Sir y Fflint, mae ymrwymiad hirsefydlog i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed, megis pan arwyddodd y Cyngor Ddatganiad Dulyn yn 2014, sy’n tanlinellu ei ymrwymiad i Sir y Fflint ddod yn gyfeillgar i bob oed. Rhoddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint flaenoriaeth i ddatblygiad parhaus gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn y ‘Cynllun Lles Sir y Fflint’. Golyga hyn wneud newidiadau cadarnhaol i’r agweddau canlynol ar fywyd cymunedol, a ddiffinnir gan Sefydliad Iechyd y Byd fel ‘Parthau sy’n Gyfeillgar i Oed’. 

  • Adeiladau cyhoeddus a’r awyr agored  
  • Cludiant  
  • Tai 
  • Cyfranogiad cymdeithasol
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol 
  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth 
  • Cyfathrebu a gwybodaeth  
  • Cefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Rwyf yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn, gan y bydd aelodaeth yn darparu nifer o effeithiau cadarnhaol ac yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi, gwerthfawrogi a dathlu ein poblogaeth sy’n heneiddio. Bydd hefyd yn darparu cyfle i rannu adnoddau, syniadau ac arferion gorau ag aelodau rhwydweithiau eraill.” 

“Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd i feithrin cymunedau sy’n gyfeillgar i oed a dementia yn Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys sefydlu caffis cymunedol, cefnogi grwpiau gweithredu cymunedol, gwella’r broses o rannu gwybodaeth a datblygu prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau a chynlluniau cynhwysiant digidol.” 

Bydd y gwaith yn rhoi’r cyfle i bobl hyn leisio’u barn wrth lunio gwasanaethau a chymunedau sy’n gyfeillgar i oed.  

Y targed ar gyfer cyflwyno’r cais yw mis Chwefror 2023.