Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Newid Hinsawdd

Published: 17/02/2023

Pan fyddant yn cyfarfod ddydd Iau, 23 Chwefror, gofynnir i aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi cynnydd Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor ers iddi gael ei mabwysiadu ym mis Chwefror 2022.

Themâu allweddol y strategaeth yw:

  • Adeiladau
  • Symudedd a Chludiant
  • Caffael
  • Defnydd Tir 
  • Ymddygiad

Adeiladau

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein hadeiladau i wella eu heffeithlonrwydd ynni a’u hallyriadau carbon dilynol, uwchraddio LED, inswleiddio gwell ac uwchraddio BMS (System Rheoli Adeiladau) i wella’r ffordd o reoli ynni. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar adeiladau i leihau’r angen am drydan o’r grid drwy osod paneli solar a thyrbinau gwynt ar ysgolion a’n hunedau diwydiannol. 

Gwelsom ostyngiad o 3% mewn gwres o’n hadeiladau, gostyngiad o 37% yn y defnydd o drydan yn ein hadeiladau a gostyngiad o 44% mewn trydan gan oleuadau stryd.

Mae gwaith ar y gweill i ddylunio a datblygu ysgol Di-garbon net gyntaf y Cyngor ac rydym yn dangos arweinyddiaeth eto drwy gynllun peilot ar gyfer Cartref Gofal Di-garbon Net, sef un o’r rhai cyntaf yng Nghymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

“Mae’r Cyngor yn parhau i roi cyngor a chymorth ar ynni i eiddo domestig - i denantiaid y Cyngor ac aelwydydd preifat - i leihau’r perygl o dlodi tanwydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phreswylwyr a chontractwyr i osod mesurau lleihau ynni mewn cartrefi yn cynnwys inswleiddio, bylbiau golau LED, mesuryddion defnydd ynni, ynni solar a systemau gwresogi gwell megis pympiau gwres yr awyr.

“O ran ein strategaeth economaidd, mae cynlluniau lleoedd yn cael eu datblygu ar gyfer pob canol tref yn y sir dros y flwyddyn nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn ein helpu i ddeall yr anghenion adfywio yn ein cymunedau trefol ac yn ystyried lliniaru ac addasu carbon ac effeithiau amgylcheddol yn yr ardaloedd hyn.”

Symudedd a Chludiant

Yn 2021/22 gwelsom ostyngiad o 51% mewn teithio Busnes, gostyngiad o 11% mewn cymudo gan weithwyr a gostyngiad o 15% yn y Fflyd, o’i gymharu â gwaelodlin 2018/19.

Mae’r Cyngor yn gweithio i ddeall effaith y trosglwyddo i gerbydau tanwydd amgen ac mae cynlluniau peilot yn cynnwys cerbydau ailgylchu trydan a 2 fws trydan wedi cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth cyhoeddus.  

Mae’r effaith fwyaf yn y maes hwn yn dod o’n Fflyd ein hunain. Mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu cynllun Trosglwyddo Cerbydau Trydan y Cyngor yn unol â gosod pwyntiau gwefru trydan ac adnewyddu contract y Fflyd. 

Rydym wedi buddsoddi mewn isadeiledd gwefru cerbydau trydan i gefnogi’r trosglwyddo cyhoeddus i gerbydau trydan, ac mae’r cam cyntaf o osod 15 pwynt gwefru mynediad cyhoeddus mewn meysydd parcio cyhoeddus wedi’i gwblhau. 

Rydym yn parhau i ddatblygu ein rhwydwaith teithio llesol ar draws y sir drwy nodi bylchau yn y rhwydwaith a’u llenwi.  

Caffael

Yn 2021/22, gwelsom gynnydd o 24% mewn allyriadau carbon o’n cadwyn gyflenwi. Mae’r cynnydd hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â chynnydd mewn gwariant drwy’r Cyngor cyfan yn 2021/22.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ystyried sut y gallwn gynnwys ystyriaethau newid hinsawdd yn ein caffael mewn ffordd sy’n gymesur a pherthnasol ac sy’n dylanwadu ar y farchnad. Mae lleihau allyriadau o nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu caffael yn rhan sylweddol o’n hymateb i’r hinsawdd. 

Mae’r Strategaeth Gaffael yn cael ei hadolygu er mwyn cyflwyno mesurau i bwysoli contractau sy’n ystyried effeithiau carbon y contract a chasglu’r data allyriadau carbon hwnnw.

Defnydd Tir

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio i ddeall manteision presennol a phosibl ei asedau tir – mapio ardaloedd o dir sydd â’r potensial i amsugno carbon yn well, amddiffynfeydd llifogydd naturiol ac enillion net bioamrywiaeth. Bydd safleoedd allweddol yn cael eu dynodi eleni i gynnal astudiaethau dichonoldeb.

Rydym wedi lansio dwy fferm solar newydd gyda’r potensial i greu 3MW o drydan, gan ychwanegu at ein ffermydd solar presennol a chreu nwy gwastraff tirlenwi. Mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Llundain, rydym hefyd wedi bod yn treialu ynni dwr ym Mharc Gwepra. 

Drwy fuddsoddi yn y technolegau hyn, gallwn symud Sir y Fflint a Chymru fel cenedl, oddi wrth ynni a gynhyrchir drwy losgi tanwydd ffosil. Mae cyfleoedd pellach yn bodoli i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr.

Mae mentrau eraill sy’n lleihau ein hôl troed carbon yn cynnwys:

  • Anfon gwastraff trefol i Barc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n gallu pweru mwy na 45,000 o gartrefi. 
  • Mae gwastraff bwyd o ymyl y palmant yn mynd i dreuliwr anaerobig.
  • Mae gwastraff gwyrdd yn cael ei droi’n gompost yn y cyfleuster ym Maes Glas.  
  • Mae gweithio gyda Refurbs ac elusennau eraill wedi gwella’r ffordd rydym yn trin gwastraff nwyddau gwyn ac wedi annog uwchgylchu eitemau mawr o gartrefi.   
  • O ran rheoli bioamrywiaeth, mae gennym bellach rwydwaith o 109 ardal natur sy’n cynnwys trefn o dorri llai ar y glaswellt a hau blodau gwyllt. 

Ymddygiad

Er mwyn ymgorffori newid yn yr hinsawdd, mae gwaith wedi’i wneud i adolygu a diweddaru’r dull o wneud penderfyniadau allweddol yn y Cyngor. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, mae’r Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd wedi newid yn Bwyllgor Newid Hinsawdd ac mae Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi wedi’i sefydlu.   

Byddai’r gweithwyr yn ehangach yn elwa o gwblhau cyflwyniad mwy sylfaenol at newid yn yr hinsawdd, ac mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain comisiwn sector cyhoeddus rhanbarthol i hwyluso datblygiad modiwl e-ddysgu ar gyfer hyn. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Healey:

“Ni fydd lleihau allyriadau carbon y Cyngor ei hun – sef tua 2% o holl allyriadau’r sir – yn cyflawni’r targed o gael Cymru di-garbon net erbyn 2050, a’r disgwyliad yw ein bod yn defnyddio ein dylanwad fel Awdurdod Lleol i annog busnesau lleol, sefydliadau gwirfoddol, gwasanaethau cyhoeddus a’n preswylwyr i weithio tuag at leihau eu hallyriadau carbon. 

“Ni fydd newid allweddol yn digwydd heb ddigon o gapasiti. Fe wnaethom lwyddo i gael prentis gradd mewn ‘Ynni Carbon Isel a Chynaliadwyedd’ drwy fenter Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn sgiliau gwyrdd. Mae’r lleoliad hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr Wrecsam ac mae eisoes yn profi i fod yn adnodd gwerthfawr i’r rhaglen.”

 

Flint Solar site.png Crumps Yard solar site CQ.png