Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwilio am brosiectau newydd i £30 miliwn o Gyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru

Published: 15/02/2023

Â30 million funding now open f or North Wales projects (5) (002).pngMae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau prosiectau uchelgeisiol ac arloesol, i ymuno â’u portffolio Cynllun Twf, ar ôl cyhoeddi dyraniad cyllid o hyd at £30 miliwn. Nod y cyllid yw cefnogi prosiectau sydd â'r potensial i ysgogi twf economaidd a chreu swyddi yn y rhanbarth. 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r alwad hon am brosiectau newydd. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau a all ddangos sut y gallant gyfrannu at nodau ein Cynllun Twf wrth ddatblygu economi cynaliadwy â effaith hir-dymor yma yng Ngogledd Cymru. 

"Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau trawsnewidiol sy'n barod ar gyfer buddsoddiad, ac sy'n ategu amcanion y rhaglenni Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Ynni Carbon Isel, a Thir ac Eiddo. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy'n cyd-fynd â'n rhaglenni Cysylltedd Digidol ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch, os gall y prosiectau ddangos llawermwy o effaith o ran swyddi a buddsoddiad i'r rhanbarth.” 

Ychwanegodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae gan y Cynllun Twf ffocws hirdymor a bydd yn adeiladu economi mwy bywiog, cynaliadwy a gwydn yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r cyfle yma yn un gwych i adnabod prosiectau cyffrous a all helpu gyflawni ein huchelgeisiau. " 

Mae ceisiadau i Gyllid y Cynllun Twf nawr ar agor. Gellir ddarganfod fwy o wybodaeth am ymgeisio, y criteria, a gofynion pellach yma.

Caiff digwyddiad ei gynnal ar y 27fed o Chwefror fydd yn trafod unrhyw gwestiwn am y cyfle. Cliciwch yma i gofrestru eich lle.