Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn galw ar bob cyflogwr!   Ydych chi’n cael trafferth recriwtio staff?

Published: 17/02/2023

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpgBydd Ffair Swyddi blynyddol Sir y Fflint yn cael ei chynnal yn fuan.   Ydy eich busnes eisiau cymryd rhan?

Mae Cymunedau am Waith  Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn galw ar gyflogwyr lleol i gymryd rhan.  Fe gynhelir y digwyddiad AM DDIM yma yn y Neuadd Ddinesig, Cei Connah, rhwng 4pm a 7pm, dydd Iau 20 Ebrill 2023. 

Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes a dod o hyd i weithwyr posibl.  Yn y blynyddoedd blaenorol, mynychodd dros 800 o bobl y digwyddiad, a chafodd ei gefnogi gan sawl cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Flintshire.eateam@dwp.gov.uk. 

Neu Nia Parry/Janiene Davies yng Nghymunedau am Waith nia.parry@flintshire.gov.uk Janiene.davies@flintshire.gov.uk.