Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint

Published: 21/02/2023

Countryside.jpgA hoffech chi ddweud eich dweud yn y drafodaeth am ddyfodol mynediad i'r cyhoedd yng nghefn gwlad?

Rydym ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint.

Mae gennym ni ddiddordeb mewn pobl sydd â phrofiad mewn rheoli cefn gwlad, fel ffermwyr, neu bobl sy’n defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd, fel cerddwyr, marchogion, beicwyr neu yrwyr oddi ar y ffordd. 

Swyddogaeth y Fforwm yw rhoi cyngor i Gyngor Sir y Fflint ac eraill ar wella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion adloniant awyr agored a mwynhad o'r ardal. Mae hyn yn cynnwys gwella hawliau tramwy cyhoeddus a’r hawl i gael mynediad i dir comin cofrestredig a thir agored.     

Mae’r Fforwm yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, fel arfer yn ystod y dydd. Mae’n bwysig bod aelodau’n gallu bod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Mae’r rhain yn swyddi di-dâl, ond bydd aelodau’r Fforwm yn gallu hawlio costau teithio rhesymol.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cael ei ystyried i fod yn aelod gael rhagor o fanylion gan aelod o’r Tîm Mynediad - publicrightsofway@flintshire.gov.uk