Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno straeon - hyfforddiant am ddim ar hanes llafar

Published: 01/03/2023

Welsh_stamp_colour_JPEG.jpgMae ‘Off Flint’ – Dathlu ein tref, ein castell a’n harfordir – yn brosiect cyffrous sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol gofnodi, gwarchod a dathlu treftadaeth gyfoethog tref, castell ac arfordir y Fflint. 

Rydym angen gwirfoddolwyr i helpu i gasglu’r cyfoeth o straeon am y Fflint ac felly rydym yn cynnal dwy sesiwn hyfforddiant am ddim yn Llyfrgell y Fflint ar ddydd Iau 16 a dydd Iau 23 Mawrth o 10am – 12 hanner dydd.

Bydd y sesiynau yn edrych ar beth yw hanes llafar a pham ei fod yn bwysig, cyn ymarfer technegau cyfweliad a defnyddio’r offer. Bydd y ddwy sesiwn yn anffurfiol ac yn ymarferol iawn!

Bydd straeon, lluniau ac arteffactau a gasglwyd yn ystod y prosiect yn ffurfio sail ar gyfer archif gymunedol newydd yn Llyfrgell y Fflint, fel bod y wybodaeth a gesglir yn hynod hygyrch i bawb.

Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint, ac mae wedi cael £54,200 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Mae llefydd yn gyfyngedig felly mae’n hanfodol cadw lle, cysylltwch â Jo Danson, Swyddog Treftadaeth Cymunedol ar 01352 703042 neu jo.danson@flintshire.gov.uk.