Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnig Gofal Plant i Gymru, Sir y Fflint

Published: 20/06/2018

Mae Sir y Fflint yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod eu cynnig i gyllido gofal plant yn cael ei ehangu i saith awdurdod lleol arall ar draws Cymru. Bydd rhieni yn derbyn cyfanswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod tymor yr ysgol a hyd at 30 awr yn ystod gwyliaur ysgol. Bydd yr addysg gynnar am ddim a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen yn ffurfio rhan o’r cynnig hwn. Yng Ngogledd Cymru, fel un o’r awdurdodau peilot, mae Sir y Fflint wedi arwain y datblygiad o gynnig gofal plant, ynghyd â Sir Fôn a Gwynedd, a nawr bydd ar gael yn Wrecsam a Chonwy. Bydd Sir y Fflint yn cynnig eu harbenigedd i gyd-weithwyr yn Wrecsam, wrth i’n cymydog gyflwyno’r Cynnig. Yn y broses hon, bydd Wrecsam yn uchafu ar gymeriant gan rieni a darparwyr gofal plant. Bydd rhieni Wrecsam yn gallu ymgeisio ar-lein trwy ddolen ar dudalen gwe Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint neu dudalen gwe Cynnig Gofal Plant. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Sir y Fflint wedi arwain peilot hynod o lwyddiannus ac wedi datblygu ein technoleg bwrpasol ein hunain sydd wedi ei amlygu fel esiampl o arfer da, ac o fis Gorffennaf, bydd rhieni yn Wrecsam yn gallu manteisio ar ein system i wirio os ydynt yn gymwys ac ymgeisio. Yn Sir y Fflint yn unig, rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i 948 o deuluoedd cymwys. Mae teuluoedd yn Sir y Fflint yn elwa cymaint â £5,535 y flwyddyn. Ers Medi 2017, mae Sir y Fflint wedi hawlio dros £ 1.5 miliwn i gefnogi teuluoedd lleol. “Rydym hefyd yn cefnogi lles plant ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn plentyndod mewn ffordd uniongyrchol trwy gynyddu incwm gwarior cartrefi syn gweithio. Mae nifer o deuluoedd wedi dweud wrthym ni fod hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles. “Yn ogystal â hynny, mae 184 o ddarparwyr gofal plant wedi cofrestru, sy’n dangos ei fod yn boblogaidd iawn ymysg darparwyr. I ddarganfod os ydych yn gymwys, gwiriwch ar-lein ar: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/childcare-offer.aspx Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint ar 01352 703500 neu anfonwch e-bost i fisf@flintshire.gov.uk. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a thimoedd Gofal Plant Wrecsam ar 01978 292094 neu fis@wrexham.gov.uk.