Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Digwyddiad Arddangos Treftadaeth Carchar Rhuthun

Published: 13/03/2023

 

Ruthin Gaol.jpgMae croeso i bawb i ddigwyddiad Arddangos Treftadaeth sy’n rhad ac am ddim, yng Ngharchar Rhuthun ddydd Mawrth, 28 Mawrth rhwng 10.30am a 3.30pm. 

Bydd stondinau ac arddangosfeydd gan amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys Cymdeithas Hanes Rhuthun, Amgueddfa Corwen, Cymdeithas Bwcle, Cyfeillion Mynwent Wrecsam, Menter Iaith ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae hefyd yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am y gwaith y mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud a’r adnoddau sydd ganddynt, yn ogystal â chael cipolwg ar Garchar Rhuthun cyn iddo ailagor yn swyddogol ar 1 Ebrill.

Mae’r Digwyddiad Arddangos Treftadaeth wedi’i drefnu fel rhan o brosiect i gynnal archwiliad o’r swm helaeth o ddeunydd sydd wedi’i gynhyrchu gan unigolion, grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill dros y blynyddoedd i ddehongli treftadaeth gyfoethog Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r archwiliad yn ymdrin â threftadaeth yn yr ystyr ehangaf gan gynnwys hanes, arloesi diwydiannol, bywyd bob dydd a’r amgylchedd naturiol ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. 

Nod yr archwiliad yw ei gwneud hi’n haws i unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector twristiaeth, busnesau lleol neu’r gymuned gael mynediad at y wybodaeth er mwyn cryfhau eu hymdeimlad o le. 

Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Caiff ei ariannu’n rhannol drwy raglen LEADER gan Cadwyn Clwyd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Jo Danson ar 01352 740385 neu drwy anfon e-bost - jo.danson7@gmail.com.

Mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.