Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn anrhydeddu milwyr wrth gefn y lluoedd arfog

Published: 28/06/2018

Chwifiodd Cyngor Sir y Fflint faner y Lluoedd Arfog heddiw, 27 Mehefin, i ddathlu Diwrnod Milwyr Wrth Gefn. Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn ei wneud i’r Lluoedd Arfog, ein cymuned, ein sefydliad a’n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn. Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser sbâr i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o’r lluoedd arfog, pe bai eu hangen ar eu gwlad. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint: “Mae ein gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gânt o’r lluoedd arfog yr un mor bwysig ac maen nhw’n dod â’r rhain yn ôl i Gyngor Sir y Fflint. Mae pob un o’n milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu’r genedl. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel ac mae’n fraint i ddathlu’r gwaith maen nhw’n ei wneud.” Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham: “Mae’r seremoni hon yn rhan o wythnos y Lluoedd Arfog, gan gydnabod dewrder ac ymrwymiad y Lluoedd Arfog, nawr ac yn y gorffennol, sy’n peryglu eu bywydau, ac wedi peryglu eu bywydau, fel rhan o’u dyletswydd”. Mae’r Cyngor yn gwbl ymroddedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, yn cynnwys milwyr wrth gefn. Mae ein Polisi Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog yn nodi sut byddwn yn eu cefnogi os cânt eu galw i wasanaethu. Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018 yn digwydd yn Llandudno 30 Mehefin. #SaluteOurForces #ReservesDay Nodyn i olygyddion Yn y lluniau ynghlwm mae; 2018 CS-0018-DE Y Cyng. Haydn Bateman, Y Cyng. Bernie Attridge, Y Cyng. Andy Dunbobbin, Y Cyng. Paul Cunningham a’i gymar, Mrs Joan Cunningham