Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digartrefedd a Phobl sy’n Cysgu ar y Stryd yn Sir y Fflint

Published: 17/04/2023

Yn rhan o’i ymrwymiad i ymagwedd “Neb Heb Help” tuag at ddigartrefedd, gofynnir i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai barhau i gefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ei Wasanaeth Tai ac Atal i liniaru digartrefedd a chefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos hon.

 

Mae digartrefedd yn wasanaeth statudol sydd dan bwysau sylweddol yn dilyn pandemig y Coronafeirws a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw.  Mae’r farchnad dai sector preifat leol yn wynebu heriau sylweddol oherwydd bod llai o eiddo ar gael bob blwyddyn ac oherwydd bod llawer o landlordiaid yn gadael y farchnad. Mae hyn yn creu digartrefedd wrth i eiddo gael eu gwerthu, wrth i breswylwyr gael eu holi i adael ac o ganlyniad i’r ffaith bod llai o eiddo ar gael sy'n golygu nad ydyn nhw’n fforddiadwy i fwy a mwy o bobl.

 

Wrth wneud sylwadau ar gynnydd gwaith yn y Gwasanaeth Tai ac Atal yn Sir y Fflint, dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, y Cynghorydd Sean Bibby:

 

“Mae newidiadau i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yn benodol cyflwyno categori ychwanegol o Angen Blaenoriaethol ar gyfer cysgu ar y stryd a’r bobl sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, yn golygu y bydd hawl gan fwy o bobl ac yn enwedig pobl sengl i gael cymorth i ddod o hyd i lety, sy’n rhoi pwysau a chost cynyddol sylweddol ar y Gwasanaeth Tai ac Atal.

 

Er bod hyn yn heriol, mae cyfleoedd i ymgysylltu â phobl na fydden nhw wedi cael cymorth yn y gorffennol, sydd bellach yn arwain at ganlyniadau tai neu les cadarnhaol.  Mae llawer o waith da wedi’i wneud i gefnogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i ni ddod allan o bandemig y Coronafeirws ac mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin y momentwm hwnnw ymhellach.

 

Mae llawer o enghreifftiau da o ymyriadau y mae pobl leol yn eu defnyddio i atal digartrefedd yn cynnwys creu cynllun ad-dalu ôl-ddyledion rhent, cael cymorth â chyllidebu, cymorth ag atgyweirio a chynnal a chadw eiddo a chymorth i deuluoedd ynghylch rheoli cydberthynas â phobl ifanc”.

 

Bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai yn ystyried y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud i helpu pobl i gynnal eu tai er mwyn osgoi’r angen i ddefnyddio tai dros dro a thai brys drwy weithgareddau atal pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher, 19 Ebrill 2023.