Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasgaru biosolidau yn amaethyddol yn Treffynnon

Published: 21/04/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dymuno hysbysu preswylwyr ymlaen llaw, bod United Utilities, yn ystod y gwanwyn eleni (01.05.23), yn bwriadu dosbarthu a defnyddio Biosolidau wedi’u treulio, o safon gonfensiynol, ar dir fferm yn Treffynnon.                                                      

Mae’r map isod yn dangos y darn o dir (mewn melyn) fydd yn cael ei drin.  

Holywell.png

Mae defnyddio Biosolidau yn fuddiol i amaethyddiaeth a’r amgylchedd, ac er y gall preswylwyr sylwi ar arogl annymunol, hoffai’r Cyngor sicrhau nad oes unrhyw risg i iechyd y cyhoedd.   

I gael rhagor o fanylion am Fiosolidau, ewch i https://assuredbiosolids.co.uk/about-biosolids/