Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tyfu gwell yfory: Ein menter plannu coed 

Published: 25/04/2023

 

Sealand manor.jpegYn 2018 lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol cyntaf. Roedd y cynllun yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar hyd a lles y sir, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol. Roedd y cynllun hefyd yn gosod nod ar gyfer cyflawni gorchudd coed trefol o 18% erbyn 2033. 

I gefnogi’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru, trwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, i greu cysylltiadau gwyrddach drwy’r sir, gyda’r weledigaeth o wella mannau gwyrdd er budd pobl a natur. 

Gorchudd coed trefol Sir y Fflint ydi’r seithfed lleiaf yng Nghymru, gyda’r coed yn gorchuddio 14.5% o’r tir. Mae coed yn arwydd o’r byd naturiol oherwydd y rôl allweddol maent yn eu chwarae wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. O safbwynt dynol, mae coed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

I gyrraedd y targed gorchudd canopi o 18% erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed. Drwy gydol y tymor plannu coed rydym ni wedi plannu llawer o goed newydd, yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw ar ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle’r rhai rydym ni wedi gorfod eu torri. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint. 

 

Mae disgyblion ar hyd a lled y sir hefyd wedi helpu ein staff i blannu dros 2500 o blanhigion coed bach yn ystod digwyddiadau plannu, gan greu dros 550 metr o wrychoedd newydd. 

Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, yna cysylltwch â ni i drafod pethau ymhellach: biodiversity@flintshire.gov.uk. Bydd y safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y budd posibl i’r gymuned a byd natur. 

Meddai Andy Liptrot, Pennaeth Ysgol Gynradd Sandycroft: “Yma yn Ysgol Gynradd Sandycroft rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect bioamrywiaeth a gefnogir gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r gwrych rydym ni wedi’i blannu yn yr ysgol yn mynd i helpu i ddatblygu amgylchedd a chynefin ein hysgol. Mae’n rhan o ymrwymiad ein hysgol i ddatblygu ein tiroedd, drwy annog blodau gwyllt, planhigion, pryfaid ac anifeiliaid i dyfu a byw yma. Diolch i Gyngor Sir y Fflint am gefnogi ein hysgol.”

Meddai’r Cyng. David Healy, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydw i’n falch iawn o weld cynnydd gwych yn cael ei wneud i gyrraedd y targedau’r Cynllun Coed a Choetiroedd. Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud yn bwysig iawn, ac yn darparu amryw o fuddion i’n byd natur a’n cymunedau. Hoffaf ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o hyn”. 

Tree planting initiative.jpeg