Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Cyflawniad Ysgolion Iach a Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint

Published: 04/07/2018

Cynhelir y digwyddiad dathlu cyflawniad ddydd Gwener 13 Gorffennaf 2018 9.15am - 11.30am yn Ysgol Gwynedd, Fflint. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd gan Gynllun Ysgolion Iach a Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint. Bydd disgyblion syn cynrychioli nifer fawr o ysgolion cynradd o fewn y sir yn mynychu, er mwyn derbyn eu gwobrau a gyflwynir iddynt gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham a Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro dros Addysg ac Ieuenctid. Mae’r digwyddiad i ddathlu, yn cydnabod cyflawniad ysgolion yn y Cynllun Ysgolion Iach ynghyd â chyflawniadau chwaraeon timoedd ysgol ac unigolion ar draws nifer o chwaraeon gwahanol, a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd cynrychiolwyr o’n pedair Ysgol uwchradd hefyd yn ymunor dathliad eleni. Bydd uchafbwyntiau penodol y digwyddiad yn cynnwys cyflwyno Gwobr Ansawdd Genedlaethol i Ysgolion Iach i 2-3 ysgol am oddeutu 10.45am. Dilynir hyn trwy gyflwyno gwobrau ir Bachgen a Merch Mwyaf Addawol mewn Chwaraeon ar wobr Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon yn Sir y Fflint am oddeutu 10.55am.